Main content

Cartrefi Cymru: Talgarth

Twm Morys

Cyflwynydd Cartrefi Cymru

Un ysgrif, mewn gwirionedd, sy’n sail i’r ddwy raglen gyntaf. Cyhoeddwyd hi ym 1892 yn y cylchgrawn Cymru o dan y teitl ‘Talgarth’, ac mae hi’n cofnodi taith O. M. Edwards yn haf y flwyddyn honno i’r hen Sir Frycheiniog i weld bedd Hywel Harris yn eglwys Talgarth a’i gartref yn Nhrefeca.

Eglwys Talgarth, 1892

Sylweddolais wedyn fod deunydd i wneud dwy raglen, yn benna’ am fy mod i wedi taro drwy ddamwain ar Gymro Cymraeg yn Nhalgarth, sef Mr Dave Cook.

Mae OM yn cwyno, dros gant o flynyddoedd yn ôl, fod Talgarth wedi ei seisnigo bron yn llwyr. Gwelais gyfle i fynd ar ôl y thema honno yn y rhaglen, ac nid rhyfedd mai monolog ydi hi bron iawn. Ond Cymraeg oedd yr adar roeddwn i’n gweiddi arnyn nhw ar y diwedd, cofiwch! 

Dyma’r unig dro, i mi gofio, i OM fynd i mewn i eglwys o’i wirfodd, sef eglwys Talgarth – doedd dim dewis, mewn gwirionedd, gan fod Harris wedi ei gladdu o fewn y muriau. Ond fel arfer bydd yn cerdded heibio i hyd yn oed yr hen eglwysi mwyaf gogoneddus, ac yn canmol y capeli mwyaf hyll i’r cymylau! Ac ar y daith hon y cefais un o’r profiadau rhyfeddaf hyd yn hyn ar drywydd OM, sef clywed y dôn hyfryd Nimrod gan Elgar (sy’n boblogaidd iawn ar hyn o bryd oherwydd ei chysylltu rywsut â galar y Rhyfel Mawr) yn cael ei chwarae ar yr organ yn yr eglwys wag...

Gwefan rhaglen Cartrefi Cymru

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Tra Bo Dau - Aloma a John Pierce Jones

Nesaf