Main content

Bangor v Y Rhyl - y Ffeinal

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae Stadiwm y Book People ym Mangor yn cael tipyn o sylw yn ddiweddar.

Gyda chae artiffisial 3G ar fin cael ei osod yno, bu tîm merched Cymru yn chwarae yn erbyn Montenegro yno'r wythnos diwethaf gan chwalu eu gwrthwynebwyr o bedair gôl i ddim.

Dydd Sadwrn yma bydd gêm arall a ddylai fod llawn mor gyffrous ac unrhyw un a welwyd yno'r tymor yma - y tro yma gêm derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Ewropa.

Gyda’r Rhyl yn chwalu Caerfyrddin o chwe gôl i un yn rownd cyn derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer cymhwyso i Gwpan Ewropa, byddant yn teithio i wynebu Bangor i benderfynu pa un fydd angen pasport ar gyfer yr haf!

Hawliodd Y Rhyl eu lle yn y ffeinal wedi eu buddugoliaeth gyfforddus o 6-1 yn erbyn Caerfyrddin yn Stadiwm wyntog GenQuip Port Talbot ddydd Sadwrn.

Aeth y Rhyl ar y blaen wedi 42 munud ond eiliadau’n unig cyn yr egwyl daeth Caerfyrddin yn gyfartal diolch i ymdrech Kyle Bassett o’r cwrt chwech.

Ond fe brofodd cyfnod agoriadol yr ail hanner yn allweddol i’r gogleddwyr.

Bum munud wedi cychwyn yr ail hanner, dynododd y dyfarnwr Lee Evans bod Carl Evans wedi llawio’r bêl ar ei linell ei hun, cerdyn coch, a dyna ddiwedd cyfraniad Carl Evans i’r gêm. Manteisiodd Y Rhyl ar y golled yma i Gaerfyrddin, a daeth yn chwalfa wrth i bum gol arall i Rhyl gwblhau prynhawn hunllefus i Gaerfyrddin.

Canlyniad hollol annisgwyl rhaid cyfaddef gan mai hon oedd buddugoliaeth gyntaf Y Rhyl mewn saith gêm a bydd yr ornest yn erbyn Bangor yn dechrau am 3 o’r gloch.

O ran Bangor, fe fyddant yn awyddus iawn i sicrhau fod eu teithiau i’r Cyfandir yn parhau unwaith eto, ac er mai anghyson bu eu canlyniadau diweddar, pwy all anghofio'r canlyniad anghredadwy yna wrth iddynt golli adre i'r Seintiau Newydd o naw gol i un yn ddiweddar?

Mae’n argoeli’n dda am dipyn o gêm ar Lannau'r Fenai brynhawn Sadwrn - gwerth gwneud y daith yno - o ble bynnag yr ydych yn byw!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf