Main content

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 24 Ebrill 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Stiwdio - Tammy Jones



cyflwyno - to present

ar frig - on top

llyffantod - frogs

gyrfa - career

gwledydd - countries

llwyddiant - success

dwyn i fyny - to raise

trafeilio - travel

trosodd - over

llithro - to slip



ac mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n mwynhau gwylio rhaglenni talent ar y teledu. 'The Voice', 'Britain's Got Talent', 'Cân i Gymru'; dw i wrth fy modd efo nhw! Ond, dydy'r syniad o gael rhaglenni talent ar y teledu ddim yn rhywbeth newydd. Flynyddoedd cyn Simon Cowell roedd Hughie Green yn cyflwyno'r rhaglen 'Opportunity Knocks' ar y BBC. Yn 1975 roedd Tammy Jones, merch ifanc o Dalybont ger Bangor, ar frig y siartiau pop ar ôl iddi gael llwyddiant mawr ar 'Opportunity Knocks'. Ddydd Iau cafodd Kate Crockett sgwrs efo Tammy am ei gyrfa ac am yr holl wledydd y buodd hi'n perfformio ynddyn nhw.



Straeon Bob Lliw - Frank Honeybone



dirgrifwr - comedian

yn hytrach - rather

cefnogi - to support

darganfod - to discover

confensiynol - confensiynol

methu - to fail

menyw - woman

beichiog - pregnant

halen i'r briw - salt into the wound

datblygu - to develop



Y digrifwr Frank Honeybone oedd ar y rhaglen 'Straeon Bob Lliw' wythnos yma. Nid dweud jôcs oedd o, ond yn hytrach sôn am gyfnod anodd iawn yn ei fywyd. Yn y clip yma mae Frank yn sôn am gefnogi ei wraig Nadine drwy driniaeth IVF, ac ar ôl iddyn nhw gael mab bach, mi wnaethon nhw ddarganfod ei fod yn Awtistig.



Iola Wyn - Robat Arwyn



cerddor - musician

cyfansoddwr - composer

addurn - ornament

silff ben tan - mantelpiece

draig - dragon

ysbrydoli - to inspire

llechen - slate

y faner - the flag

syrthio - to fall

talog - haughty



Roedd y cerddor a'r cyfansoddwr Robat Arwyn ar raglen Iola Wyn wythnos yma yn siarad am addurn pwysig iawn sy' gynno fo ar ei silff ben tân. Nid 'antique' ydy o, ond yn hytrach addurn bach o ddwy ddraig a gafodd yn bresant gan ei ferch fach, Elan. Dyma Robat i sôn sut mae'r addurn wedi ei ysbrydoli i 'sgwennu cân i Elan



Daf a Caryl - Fflur Wyn



llwyfan - stage

brawychus - terrifying

cynhyrchiad - production

siartiau - charts

cartrefol - homely

gwefr - to thrill

cantorion - singers

gwirioni - to dote

cydnabyddiaeth - recognition

cyhoeddusrwydd - publicity



Mae perfformio ar lwyfan yn medru bod yn brofiad brawychus iawn ond nid i'r soprano ifanc Fflur Wyn. Mae Fflur yn perfformio'r rhan Achsah yn Opera Handel Joshua yn Leeds ar hyn o bryd. Cafodd Caryl a finnau sgwrs gyda Fflur ddydd Llun am y cynhyrchiad, ei llwyddiant yn siartiau 'Itunes' ac am y llwyfannu gwahanol mae hi wedi perfformio arnyn nhw dros y blynyddoedd.



Nia - Einstein



enwog - famous

marwolaeth - death

cysylltiad - connection

Efrog Newydd - New York

miliwnydd - millionaire

ariannu - to finance, fund

cyfrinachau - secrets

cyffrous - exciting

o fan i fan - from place to place

y ford - the table



...pob lwc i Fflur yn yr opera newydd 'Alice in Wonderland.' Pe baech chi'n cael dewis tri pherson enwog, yn fyw neu'n farw, i gael swper efo nhw, pwy fysen nhw? Marilyn Monroe? Mohammed Ali? Albert Einstein? Ddydd Iau roedd hi'n bumdeg wyth o flynyddoedd ers marwolaeth Albert Einstein ac mi wnaeth Nest Davies ffonio rhaglen Nia i ddweud am y cysylltiad diddorol iawn oedd gan ei modryb hi gydag Einstein. I ddweud y gwir, roedd gan Margaret Williams, modryb Nest, gysylltiad diddorol gyda llawer o bobl enwog fel Hellen Keller a Roosevelt. Dyma Nest gyda'r hanes.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 2