Main content

RAJAR - Cynulleidfaoedd radio yn 2013 Ch1

Newyddion

Mae nifer y gwrandawyr sy’n gwrando ar BBC Radio Cymru wedi disgyn ar draws Cymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan gwmni RAJAR heddiw (Mai 16, 2013).

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales:

“Mae’r ffigurau hyn yn cyfeirio at gyfnod o sialensau, trafferthion a newidiadau mawr i amserlen yr orsaf na welwyd mo’u tebyg o’r blaen. Ac yn y cyd-destun hwnnw mae’r gostyngiad yng nghyrhaeddiad Radio Cymru yn siomedig ond nid yn gwbl annisgwyl.

“Mae’r tîm wedi gweithio’n galed ac yn greadigol iawn dros y misoedd diwethaf drwy gyfnod anodd a rydw i eisiau talu teyrnged i’w dyfalbarhad. Rydw i’n hyderus y bydd tîm Radio Cymru yn parhau i weithio’n galed i gynhyrchu rhaglenni o’r safon uchaf sy’n berthnsaol i gynulleidfaoedd led led Cymru.

“Er hynny, mae’r ffigurau’n cadarnhau’r sialensau eang sy’n wynebu’r orsaf ac yn tanlinellu pwysigrwydd Sgwrs Radio Cymru – ein gwahoddiad i wrandawyr ddewud eu dweud am ddyfodol yr orsaf.

“Ein ffocws nawr yw parhau gyda’r Sgwrs er mwyn datblygu cynlluniau a fydd yn sicrhau y bydd Radio Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posib i wrandawyr yn y dyfodol.”

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 14 Mai 2013

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 5