Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Gari Wyn - Christies
rheolwr ariannol - financial manager
cwmni arwerthu - auctioneers
gelynion - enemies
dwad - dod
celfyddydau cain - fine art
darlun - picture
hyd yn oed - even
dirgel - secret
byd enwog - world famous
braint - a privilege
"...amser cinio dydd Llun mi aethon ni i fyd yr arian mawr efo Gari Wyn. Yn cadw cwmni iddo fo oedd Lynne Turner, sydd yn dod o Foelfre ar Ynys Môn yn wreiddiol, ond sydd erbyn hyn yn un o brif reolwyr ariannol cwmni arwerthu Christie's yn Llundain. Mi wnaeth y cwmni werthu gwerth 5 biliwn o bunnoedd yn 2016 a dyma Lynne yn sôn am un o'r pethau druta gafodd ei werthu yn Christies."
Tai Potas Cymru - Rhos yr Hafod
gormod - too much
Tai Potas - pubs
cyfres - series
straeon tylwyth teg - fairy tales
brodyr - brothers
Hendy-gwyn ar Daf - Whitland
ymarfer - training
dwlu arno fe - mad about it
Parc yr Arfau - Arms Park
cwsg - sleep
"Cant pedwar deg dau miliwn o ddoleri - basai hyd yn oed Donald Trump yn gweld hynny'n ormod! Yn ail raglen y gyfres Tai Potas Cymru yr wythnos yma mi aeth Mair Tomos Ifans i ymweld â thafarn Rhos yr Hafod ger Llanon. Roedd hi'n chwilio am straeon tylwyth teg yng nghwmni'r dafarnwraig Elin Hywel, sydd hefyd yn chwarae rygbi ar lefel uchel iawn. Sut mae hi'n gallu edrych ar ôl y dafarn a rhoi amser i'r rygbi? Dyna oedd cwestiwn Mair i Elin a dyma hi'n ateb... "
Aled Hughes - Owain Doull
codi stwr - causing trouble
medal aur - gold medal
oherwydd - because
anhygoel - incredible
ffodus - lucky
sa i'n credu - dw i ddim yn meddwl
cefnogi - support
cyn belled â - as long as
hyfforddi - training
camp - sport
"Dw i ddim yn meddwl bod yna lawer o bobl yn codi stwr yn nhafarn Elin - yn enwedig pan mae llygad ddu ganddi. Dan ni'n aros yn y byd chwaraeon efo'r clip nesa - ond sgwrs am seiclo gafodd Aled Hughes efo’r beiciwr ifanc o Gaerdydd Owain Doull. Enillodd Owain fedal aur yn y gêmau Olympaidd y llynedd er mai dim ond tair ar hugain oed oedd o ar y pryd."
Galwad Cynnar - Orangutang
cyfeirio at - refering to
Yr Iseldiroedd - The Netherlands
cyplu - mating
mewn caethiwed - in captivity
treialu - to trial
darpar gymar - prospective mate
llwyddianus - succesful
dylanwad - influence
cyswllt - connection
a'n gwaredo ni - heaven help us
"Wel dan ni'n cael clywed gan bobl ffit iawn yr wythnos yma yn tydan? Yn y clip ola mae Gerallt Pennant a Rhys Owen yn cyfeirio at raglenni teledu fel 'Bacha Hi O'ma' neu 'Blind Date' lle mae rhywun yn trefnu i bobl gwrdd â'i gilydd gan obeithio basai rhywbeth rhamantus yn digwydd. Ond nid sôn am bobl oedd Gerallt a Rhys fel y cewch chi glywed, ond am orangutans."
