Os oeddech o’r farn mai gwastraff amser ydi cynnal gemau Cynghrair y Cenhedloedd, yna fe ddylech fod wedi bod yng Nghaerdydd nos Iau!
Roedd tua hanner can mil o gefnogwyr wedi ymgynnull yn Stadiwm Genedlaethol Cymru, a hynny yn rhoi cyfle da i lawer o blant ifanc a’u teuluoedd weld Cymru yn chwarae, rhywbeth hwyrach na fuasent wedi gallu ei wneud yn Stadiwm Dinas Caerdydd sydd yn dal llai o dorf!
Ond, doedd hyn ddim yn berfformiad i dynnu miloedd i weld Cymru yn chwarae yn gyson.
Siom oedd y perfformiad yn y gêm gyfeillgar yma (neu gêm arddangosol yn ôl y disgrifiad swyddogol) gyda’r Sbaenwyr yn sgorio tair gwaith yn yr hanner awr agoriadol, yn lladd unrhyw awyrgylch o fewn y stadiwm, a dysgu gwers i dîm Ryan Giggs.
Roedd yn dalcen caled i'r chwaraewyr ifanc, gyda Sbaen yn rheoli pethau o'r cychwyn, yn enwedig wrth osod meistrolaeth ar ganol y cae, a gweld blaenwr Borrussia Dortmund, Paco Alcacer, yn ychwanegu ei nawfed gol mewn pum gem i’r Sbaenwyr ar ôl ond wyth munud.
Yna, ddeng munud yn ddiweddarach, amddiffynnwr Real Madrid, Sergio Ramos yn dangos ei fod hefyd yn darganfod ei hun mewn digon o le wrth i Gymru fethu ac amddiffyn cic rydd Suso o'r chwith, a gweld y capten yn penio’r ail gol.
Erbyn i Alcacer ychwanegu’r drydedd ar ol hanner awr, doedd y gêm yma yn ddim mwy nac arddangosfa gan yr ymwelwyr ar sut i reoli gem, pasio’n gywrain a darganfod lle o gwmpas y cae gyda symudiadau deallus a chyfrwys.
Beth felly i Gymru nesaf, gyda gem gystadleuol yng nghwpan Cynghrair y Cenedlaethau o'n blaenau nos Fawrth?
Cafwyd perfformiad calonogol gan David Brooks a ddaeth ar y cae ar ol yr egwyl, a hefyd gan Mark Smith a ddangosodd fod ganddo lawer i'w gynnig i'r dyfodol.
Ond, a’i tîm o chwaraewyr fel ag a etifeddodd John Toshack sydd gan Ryan Giggs? Digon o addewid i'r dyfodol gan do o chwaraewyr ifanc , a chyfleodd i roi profiad gwerthfawr iddynt?
Tybed felly yn yr hir dymor, y daw Giggs i gael ei werthfawrogi, a'i gofio, nid fel rhywun a lwyddodd i barhau llwyddiant yr Ewros, ond fel un a ddarparodd lwybr newydd addawol ar gyfer ei olynydd?
Neu a fydd Giggs yn cael llonydd o fod yno ddigon hir i weld ffrwyth ei lafur yn blaguro? Cyfle na chafodd Toshack.
Mae un peth yn sicr - mae angen perfformiad llwyddiannus draw yn Nulyn nos Fawrth, a hynny o bosibl heb Gareth Bale.
Tydi rheoli tîm rhyngwladol ddim yn waith hawdd o gwbl yng Nghymru !
