Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: Mawrth 3ydd, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Tic Toc

dywediad - a saying

datblygu - developing

mynd dan groen - to get on the nerves

sylweddoli - to realise

oes diethr - a strange period

hudol - magical

fy nychymyg i - my imagination

adlais - echo

dylanwad - influence

diwylliant - culture

Heledd Cynwal yn sgwrsio efo Anni Llyn, un o'r awduron sydd yn sgwennu straeon Tic Toc. Straeon i blant ydy'r rhain fydd i'w clywed ar Radio Cymru am saith o'r gloch bob nos Sul. Mae'r straeon yma yn un o'r ffyrdd mae Radio Cymru yn dathlu ei bod hi'n gant o flynyddoedd ers i'r awdur T. Llew Jones gael ei eni. Os wnaethoch chi golli'r rhaglen gynta nos Sul diwetha, mae'n bosib gwrando arni eto drwy fynd i wefan Radio Cymru. Yn y clip yma mae Anni yn cofio am y straeon roedd hi'n eu clywed pan oedd hi'n blentyn.

Cofio - Clive Rowlands

cael fy nghodi - cael fy magu

eitha tebyg - fairly similar

coethan - to argue

tylwyth - teulu

yn dost - yn sâl

am yn ail diwrnod - every other day

cryfhau - to strengthen

y peth rhyfedda - the strangest thing

taten - a potato

cyfaethog - rich

Heledd Cynwal yn fan'na ar raglen Bore Cothi yn siarad efo Anni Llyn am straeon Tic Toc. Sgwrs o'r archif nesa, rhwng Beti George a Clive Rowlands pan oedd Clive yn dathlu ei benblwydd yn saithdeg oed. Mae Clive Rowlands wrth gwrs yn enwog yn y byd rygbi. Buodd o'n gapten ar dîm Rygbi Cymru yn y chwedegau cyn mynd ymlaen i hyfforddi'r tîm cenedlaethol a hefyd tîm y Llewod. Ond nid sgwrs am rygbi dan ni'n mynd i'w chlywed. Na, dyma i chi Clive yn siarad am ei fywyd fel plentyn yng Nghwm Twrch yn y pedwardegau...

C2:Ifan Evans - Gwyneth Glyn yn India

difyr - diddorol

cerddorion - musicians

encilio a chymdeithasu - to escape and to socialise

cyfansoddi - to compose

hynod gerddorol - remarkably musical

ymateb gwresol - a warm welcome

plethu - to blend

yn gyffredin - in common

cyfeillgarwch - friendship

gwerthoedd - values

"Braf ynde oedd clywed llais Clive Rowlands yn rhoi blas i ni ar sut beth oedd bod yn blentyn yng Nghwm Twrch ers stalwm, mewn rhaglen gafodd ei recordio yn wreiddiol yn nwy fil ac wyth o flaen cynulleidfa fyw yng Nghwm Twrch Uchaf. A basai Clive wedi bod yn hapus iawn efo perfformiad Cymru yn Ffrainc ddydd Sadwrn diwetha yn basai? Ddim yn aml mae Cymru yn ennill ym Mharis. Da iawn hogia! Ddydd Mawrth mi fuodd Bardd y Mis, Gwyneth Glyn, yn sôn wrth Ifan Evans ar C2 am ei theithiau diweddar i Austin, Texas ac i Mumbai yn yr India. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Dei Tomos - Frank Green

arlunydd - painter

arddangosfa - exhibition

chwalu - to destroy

y cwbwl lot - the whole lot

yn wynebu golygfeydd - facing views

diflannu - to disappear

rhwygo'r ddaear - to rip the ground open

rhwygo enaid - to tear the soul

cymdogaeth - neighbourhood

cyfresi - series

...ac mi awn ni rwan o Texas ac o'r India,a mynd i Lerpwl. Dyna lle cafodd yr arlunydd Frank Green ei eni a'i fagu. Mae o'n byw ym Mhontrug, ger Caernarfon erbyn hyn ond mae llawer iawn o'i waith o fel arlunydd yn cyfeirio yr amser pan oedd o'n byw yn Lerpwl. Ddydd Mawrth gafodd Dei Tomos sgwrs efo fo am arddangosfa o'i waith, gan edrych yn arbennig ar luniau o rai o hen strydoedd Lerpwl a'r cysylltiad rhwng y strydoedd hynny â Chymru...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ar Y Marc: Manchester Welsh

Nesaf

Effaith y teledu ar gemau Uwch Gynghrair Cymru