Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 03 Gorffennaf 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. 

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dei Tomos - Doctor

y fyddin - the army

yn gyfrifol am - responsible for

llawfeddyg - surgeon

cyfaill - ffrind

diffaith - barren

ar fin priodi - about to marry

arbenigo - to specialize

y canolbarth - mid-Wales

deniadol - attractive

cynfas - sheet

"...efo sgwrs ddifyr iawn gafodd Dei Tomos ddydd Sul efo Tudor Jones oedd yn arfer bod yn ddoctor yng Nghricieth. Mae Tudor wedi ysgrifennu llyfr am hanes ei fywyd, ac mi glywon ychydig o'r hanes hwnnw ddydd Sul. Yn y clip yma mae'n sôn am ei amser yn y fyddin, a pham penderfynodd o ymuno â phractis yng Nghricieth. Fel y cawn ni glywed doedd o ddim yn bractis normal iawn... "

Daf a Caryl - carnifal

Pwyllgor - committee

darparu - to provide

trwy gydol - throughout

ymylon - fringes

Iechyd a diogelwch - Health and Safety

cymanfa ganu - hymn singing festival

pres - arian

haelioni - generosity

llwyfan - stage

anhygoel - incredible

"Da ynde, cynfasau oedd ffonau symudol y gorffennol! Wel mae'r haf wedi cyrraedd ac mi rydan ni yn nhymor y carnifalau. Gobeithio bydd y tywydd yn braf ynde, mae cymaint o waith yn mynd ymlaen i gael carnifal llwyddiannus. A be am y plant bach sy'n cael eu coroni yn Frenhines y Carnifal, neu'n was bach, yn Page Boy i'r Frenhines? Dw i'n siwr bod yna lawer iawn o blantos ar hyd a lled y wlad yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr. Ar Daf a Caryl ddydd Mercher clywon ni gan Mefys Jones Edwards a'i gwr Stephen Edwards am eu profiadau nhw yng ngharnifalau Llanberis a Bethesda, un fel brenhines a'r llall yn was bach..."

Nia - Twm Elias

ymholiad brys - an emergency request

mewn gwirionedd - in reality

llachar - bright

dof - tame

ysgubor - barn

dianc - to escape

galaru - to bereave

brathu - to bite

rhegi - to swear

dychwelyd - to return

"Dyna ni ynde, dan ni'n gwybod rwan sut i gael arian poced i'r plant - cysylltu efo pwyllgor y carnifal lleol! Yn aml iawn ar Radio Cymru mi glywn ni am rywun yn chwilio am rhyw gi neu gath sy wedi mynd ar goll ac yn gofyn am help i ddod o hyd i'r anifail. Weithiau fel arall bydd hi a rhywun wedi ffeindio anifail ac yn chwilio am y perchennog. Ar raglen Nia ddydd Mawrth mi roedd yna apêl i ddod o hyd i berchennog creadur gwahanol iawn, oedd yn amlwg ar goll. Yn ardal Maentwrog oedd y creadur rwan a'r naturiaethwr Twm Elias oedd yn gwneud yr apêl..."

Geraint Lloyd - Randall Bevan

hawlio - to claim

mo'yn - eisiau

dodi - rhoi

y rhyfel - the war

mas - allan

bwrw - to hit

cwrdd â - cyfarfod efo

atgofion - memories

y ddaear - the ground

parhau mwyach - to carry on any longer

"Gobeithio ynde y bydd rhywun yn hawlio'r parot druan. Stori arall am greadur sy'n hedfan rwan - ond sôn ydw i am ddyn ac nid am aderyn! Buodd Geriant Lloyd yn siarad efo Randall Bevan nos Fercher. Mae Randall yn byw yn Ipswich rwan ond yn dod o Lanaman yn wreiddiol. Ond pam ddwedais i fod o'n hedfan? Wel hedfan o'r trampoline i ddechrau. Fo oedd pencampwr trampoline Prydain ym Mil Naw Chwe Un, Chwe Dau a Chwe Thri! Ond ei hanes yn hedfan efo parachute ydan ni'n mynd i'w glywed rwan. Dyma Randall efo'r hanes..."

Canwr y Byd - Jamie Barton

dolen - link

cyfansoddwr - composer

y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th century

Tybed oedd Randall wedi canu 'Please release me, let me go' wrth i'r parachute beidio ag agor. Bydd y rhai ohonoch chi sydd ddigon hen yn gwybod mai un o ganeuon Engelbert Humperdinck oedd honno. Ac mae hynny'n ddolen ofnadwy i'r eitem nesa, gan fod cân gan yr Engelbert Humperdinck arall - y cyfansoddwr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - yn rhan o repetoire enillydd Canwr y Byd Caerdydd eleni - y mezzo soprano o Ogledd America, Jamie Barton. Aria allan o'r opera Hansel a Gretel oedd hi o'r enw 'Ja, Gretelchen ... Hurr, hopp, hopp'. Dyma ran ohoni, mwynhewch ...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc - Cyd chwarae, gorau chwarae