Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 08/03/2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr



Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Dylan Jones - Penblwyddi Naid

Blwyddyn naid - Leap year

cyn bo hir - before long

carreg filltir - milestone

cadw'r ddysgl yn wastad (Idiom) - keeping the peace

fy lluosi wedi datblygu - my multiplying has developed

rargian Dafydd - goodness me

yn iau - younger

peri pryder - to cause concern

cysylltu - to contact

sylw - attention

"Mae hi’n flwyddyn naid eleni a dydd Llun diwetha oedd y diwrnod arbennig - Chwefror y nawfed ar hugain. Dyna'r diwrnod mae merched i fod i ofyn i ddynion eu priodi nhw ynde? Ond mae hefyd yn golygu mai dim ond pob pedair blynedd mae'r rhai gafodd eu geni ar y dyddiad hwnnw yn cael dathlu eu penblwydd - druan ohonyn nhw! Mi gafodd Dylan Jones sgwrs ddydd Llun efo dau oedd yn dathlu eu penblwyddi y diwrnod hwnnw, un yn ddeg oed a'r llall yn undeg chwech. Ond be ydy eu hoedran go iawn? Dyma Dylan yn gwneud y syms efo Meleri Brown a Derek Pritchard..."

Dan Yr Wyneb - Cadw Creiriau

creiriau - relics

amgueddfeydd - museums

derw - oak

dadl - argument

pechu fy nghyd gyfranwr - to upset my fellow contributor

o ran egwyddor - on principle

goroesi - to suvive

cenedlaethau i ddod - generations to come

bodoli - to exist

wna i ddim meiddio - I wouldn't dare

"Dau ifanc, mewn ffordd o siarad, yn dathlu eu penblwyddi efo Dylan Jones ar Chwefror 29! Ddylen ni gadw creiriau a thrysorau mewn amgueddfeydd neu eu hanfon yn ôl o ble daethon nhw? Dyna gwestiwn Dylan Iorwerth ar Dan Yr Wyneb ddydd Llun. Y tri oedd yn ceisio ateb y cwestiwn anodd yma oedd Nest Roberts Rheolwr Amgueddfeydd Gwynedd, Dr Euryn Rhys Roberts o Brifysgol Bangor a’r Parchedig Geraint ap Iorwerth. Mae Geraint eisiau gweld llythyr anfonodd Owain Glyndwr o Bennal ger Machynlleth at Frenin Ffrainc yn dod yn ôl i Gymru, ond ar y llaw arall mae ganddo ddarn o dderw hen iawn roedd o wedi dod o hyd iddo ac mae eisiau ei gadw. Cwestiwn Dylan oedd, ddylai'r darn pren hwn fod mewn amgueddfa?"

Bwrw Golwg - Lisa Stefanova

Llenyddiaeth ardaloedd glo - Literature of the coal mining areas

sefyllfa wleidyddol gymlet - complicated political situation

ymwahanwyr - separatists

nwyddau - goods

cyfnewidiol - changeable

beirniadol - critical

ardal ffiniol - border area

hanes diwydiannol - industrial history

yr ymladd - the fighting

cytundeb heddwch - peace treaty

"Doedd Geraint ddim yn barod iawn i adael i'r pren fynd nac oedd? Ar Bwrw Golwg ddydd Sul mi gaethon ni glywed ychydig am yr Iwcrain. Mae Lisa Stefanova yn dod o’r wlad honno ac mae hi’n astudio llenyddiaeth ardaloedd glo yr Iwcrain, yr Almaen a Chymru. Felly ers blwyddyn mae Lisa wedi bod yn dysgu Cymraeg. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Lisa'n sôn wrth John Roberts am sefyllfa wleidyddol gymleth yr Iwcrain..."

Rhaglen Huw Stephens - John Cale

cerddorion enwoca - most famous musicians

sefydlu - to establish

mas - allan

mo'yn - eisiau

ail-ddychmygu - to reimagine

cyfweliadau - interviews

profiad - experience

disgwyl yn ôl - edrych yn ôl

gwerthfawrogi - appreciate

gwreiddiau Cymreig - Welsh roots

"Wel mae hi'n sefyllfa gymleth iawn yn yr Iwcrain yntydy? Awn i fyd miwsig am y clip ola. Mae John Cale yn un o’r cerddorion enwoca erioed i ddod o Gymru. Cafodd ei fagu yn y Garnant yn Sir Gaerfyrddin ac aeth i Efrog Newydd ym 1963 a sefydlu’r grwp Velvet Underground gyda Lou Reed. Erbyn hyn mae o’n byw yn Los Angeles a chafodd Huw Stephens sgwrs efo fo ar ei raglen nos Lun am ei albym newydd, sef ail recordiad o Music For a New Society. MFANS yw enw’r albym newydd, a dyma i chi flas o beth oedd ganddo i’w ddweud wrth Huw Stephens..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Timau Rownd Cyn-derfynol Cwpan Cymru

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 16/03/2016