Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Triniaethau gwahanol
croen - skin
pigo - to sting
harddwch - beauty
triniaethau - treatments
baw 'deryn - bird 'poo'
malwod - snails
cyflwr - condition
sylweddoli - to realise
iacháu - to heal
annaturiol - unnatural
"...sut dach chi yn edrych ar ôl eich croen? Oeddech chi'n gwybod ei bod yn ffasiynol yng Ngogledd America i adael i wythdeg gwenyn bigo eich corff. Maen nhw'n dweud ei fod yn dda iawn i'ch croen! Bore Mawrth ar raglen Aled Hughes mi fuodd Julie Howartson Broster, sydd yn rhedeg salon harddwch, yn sôn am driniaethau ‘gwahanol' fel defnyddio placenta defaid o Seland Newydd a chael bath cwrw, ac mi roedd Aled ei hun wedi clywed am ambell driniaeth gwahanol hefyd. Dyma i chi flas ar eu sgwrs..."
Post Cyntaf - Geordan Burres
darganfod - to discover
cerddoriaeth - music
yn amlwg - obviously
cysylltu - to contact
ymateb - response
yn falch - pleased
y we - the internet
heriol - challenging
"Wyddech chi be? Mi roedd Aled yn dweud bod croen ei law yn teimlo'n braf iawn ar ôl triniaeth y malwod! Yn araf iawn mae malwod yn symud ynde, ond mi glywon ni ar y Post Cyntaf ddydd Iau am rywun sy wedi symud yn gyflym iawn - wrth ddysgu Cymraeg hynny yw. Myfyrwraig o Ohio, Gogledd America ydy Geordan Burres a doedd ganddi hi ddim cysylltiad efo Cymru o gwbl wrth iddi hi ddechrau dysgu'r iaith. Dysgodd hi Gymraeg ar y we ac erbyn hyn mae ganddi nifer o ffrindiau sy'n siarad Cymraeg gyda hi. Sut wnaeth hyn ddigwydd? Mi fuodd Geordan yn dweud ei stori wrth Nia Tudur ..."
Atsain O'r Archif - Y Trwynau Coch
dadleuol - controversial
trawiadol - striking
diaconiaid - elders
amheus - suspicious
pa mor wleidyddol? - how political?
tor-priodas - marriage breakdown
difrifol - serious
marchnata - marketing
datblygu - to develop
caniatâd - permission
"Gwych ynde, a phob lwc i Geordan efo'i Chymraeg. Yn y gyfres newydd Atsain o'r Archif ddydd Iau mi roedd Lisa Gwilym yn holi aelodau o'r grwp pync Trwynau Coch ynglyn â'r finyl lliw "Un Sip Arall". Roedd y grwp yn canu yn y saithdegau a'r wythdegau ac roedd rhai o'u caneuon nhw'n ddadleuol iawn. Mi roedd Lisa o'r farn nhw mai dim ond grwp o Gymru fasai wedi gallu sgwennu cân fel ‘Mynd i'r Capel mewn Levis' ond oedd Aled Roberts o'r grwp yn cytuno? "
Bore Cothi - Cancr y Ceilliau
codi ymwybyddiaeth - raising awareness
Cancr y Ceilliau - testicular cancer
digwyddiad - an event
yn fwy cyffredin - more common
hunan archwilio - to self-examine
annog - to encourage
wrth wraidd - at the root
anwybyddu - to ignore
trin - to treat
swildod - shyness
"Ychydig o hanes y grwp pync Trwynau Coch yn fan'na. Mae'r mis hwn yn fis codi ymwybyddiaeth Cancr y Ceilliau ac ar raglen Shan Cothi fore Mercher rhoddwyd sylw i'r cyflwr hwn. I ddechrau mi gafodd Shan sgwrs efo Dr Llinos Roberts i holi pam ei bod hi mor bwysig i gynnal digwyddiad fel hyn?
Ac os ydach chi eisiau gweld fideo sydd yn dangos sut i wneud hunan archwiliad, ewch i wefan Radio Cymru a chliciwch ar dudalen Bore Cothi. "
