Main content

Perfformiadau Wrecsam

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ar ôl cychwyn addawol, tipyn o siom ydi pethau wedi bod i ddilynwyr Wrecsam dros yr wythnosau diweddar.

Ar ôl colli’r drydedd gêm yn olynol yn Southport ar ddechrau Ionawr, mynegodd carfan fach o gefnogwyr eu hanfodlonrwydd ar y perfformiad a’r canlyniad.

Y Sadwrn diwethaf, aeth pethau’n waeth wrth i Wrecsam golli eto, adre i Woking.

Y tro yma. Gwelwyd llawer mwy o anfodlonrwydd ac wrth wrando ar Radio Wales gyda’r nos, roedd beirniadaethau llym gan gefnogwyr, a hefyd sylwadau tebyg yn cael eu nodi ar wefannau cymdeithasol yn honni nad oes yna unrhyw welliant wedi digwydd dros y deuddeng mis diwethaf.

Ie, mae’r cyfnod addawol a welwyd ar ddiwedd yr haf a dechrau’r gaeaf yn ymddangos ymhell i ffwrdd gyda rhai pobl yn dechrau meddwl fod angen edrych faint o bwyntiau sydd rhwng Wrecsam a'r timau hynny sydd yn gorwedd o gwmpas gwaelodion Cynghrair Cenedlaethol Lloegr, yn hytrach na meddwl pa mor agos maent at frig y tabl!

Gan mai cyfnod y trosglwyddiadau ydi mis Ionawr, bydd llygaid y cefnogwyr yn troi tuag at edrych os fydd chwaraewyr newydd yn cyrraedd yn ystod y mis.

Hawdd yw dweud hyn, ond fe all mewnbwn newydd i chwaraewyr sydd yn cynnig gwell (a chysondeb) hefyd effeithio ar drefn ariannol a rheolaethol y clwb, ac mae hanes o fewn y gynghrair yma yn rhyw awgrymu mai timau ariannog sydd yn llwyddo yn y pen draw .

Tydi hynny yn ddim byd newydd yn y byd pêl droed a tydi hyn ddim wedi ei gyfyngu i’r Gyngres, fel mae pawb yn ymwybodol . 

Os rhown ein sylw i dymor 2011/12, sef y mwyaf llwyddiannus i Wrecsam ers peth amser o ran pwyntiau, 98 wedi ei ennill erbyn diwedd y tymor, fe fyddai hyn yn ddigon i ennill dyrchafiad mewn unrhyw dymor arall.

Ond gyda Fleetwood wedi troi yn dîm proffesiynol llawn amser , ac yn cael eu cefnogi’n ariannol yn dda iawn, fe wariwyd llawer er mwyn codi o Adran Dau. Gwireddwyd hyn wrth weld y tîm y casglu cant a thri o bwyntiau gan orffen ar y brig, gadael Wrecsam yn yr ail safle ac yna yn methu a llwyddo yn y gemau ail gyfle chwaith.

Wyth gem a gollodd Wrecsam yn nhymor 2011/12, ond eleni maent wedi colli un gêm ar ddeg yn barod. Un o ofidion llawer o'r cefnogwyr rwyf wedi siarad â hwy ydi'r ffaith nad yw Wrecsam yn ymddangos fel petai unrhyw gynllun amgen ganddynt os yw’r gwrthwynebwyr yn feistr ar ei dull arferol o chwarae.

Dymuniad y cefnogwyr yma ydi cryfhau'r tîm a’r garfan fel y gellir cael chwaraewyr a all gynnig rhywbeth gwahanol a gosod cynlluniau mwy creadigol i'r chwarae pan fo pethau'n mynd yn anodd ar y cae.

Cawn wybod cyn hir os yw sefyllfa'r tîm ar y cae ac oddi ar y cae yn ddigon cryf i ddenu chwaraewyr newydd a allasai roi rhyw hwb i’r dyhead o gadw llygedyn o obaith yn fyw am weddill y tymor.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Geirfa 13/01/2016