Main content

Podlediad Dysgu Cymraeg - 26ain o Dachwedd 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Beti a'i Phobl - Medwyn Williams

enw - reputation

sylw - attention

wedi gwirioni - infatuated

arddanghosiad - exhibition

pabell - tent

ei llyncu hi - swallowed it

y Frenhines - the Queen

y teulu brenhinol - the royal family

deniadol - attractive

gwair - grass

Medwyn Williams y garddwr enwog oedd y gwestai ar Beti a'i Phobl wythnos diwetha. Mae Medwyn wedi ennill deuddeg medal aur yn Sioe Flodau Chelsea yn y gorffennol ac mae o wedi gwneud enw iddo'i hun. Soniodd Beti wrtho fe bod llawer o ‘selebs' yn mynd i weld gwaith Medwyn yn y sioe erbyn hyn, a dyma oedd ganddo i'w ddweud am hynny.



Y Cylch Sgwar - Reslo

hel atgofion - remininscing

trin - to treat

o flaen ei amser - before his time

wastad - all the time

rhyfedd o fyd - strangely enough

Ro'n i'n cael fy ngwarchod - I was being looked after

ffefryn - favourite

mwya gwyllt - wildest

plu - feather

halen y ddaear - salt of the earth

Llongyfarchiadu i Medwyn am ennill medal aur arall yn sioe Chelsea eleni. Roedd Orig Williams yn enwog fel reslwr gan ddefnyddio'r enw El Bandito yn y cylch. Mewn rhaglen arbennig i gofio am Orig, ‘Y Cylch Sgwar', clywon ni ei ferch e Tara Bethan yn hel atgofion am ei ihad mewn sgwrs gyda'r cerddor Gai Toms. Dyma i chi flas ar y sgwrs.



Dei Tomos - Ysgol Gymraeg Llundain

aberth - sacrifice

rhodd - a gift

dyled - debt

y mab hyna - the eldest son

ysgol eilradd - secondary school

ail-adrodd - repeat

trafnidiaeth - transport

cynyddu - increase

yn gymharol agos - comparatively near

dalgylch yr ysgol - school catchment area

Ac mae Gai Toms wedi rhyddhau albwm newydd o'r enw Orig i gofio am El Bandito. Oeddech chi'n gwybod bod yna ysgol Gymraeg yn Llundain? Wel mae 'na un, ac eleni mae hi'n dathlu ei phen blwydd yn chwedeg oed. Dyma Elinor Talfan Delaney, sydd wedi sgwennu llyfr ar hanes yr ysgol yn esbonio wrth Dei Tomos sut roedd anfon eich plentyn i'r ysgol yn arfer golygu aberth fawr.



Sioe Frecwast Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 - Bach Bach

gwrandawyr - listeners

offerynau gwahanol - different instruments

ar yr un pryd - at the same time

gwirion - silly

pennill - stanza

cytgan - refrain

llwyfan - stage

Nid Ysgol Gymraeg Llundain mae Deio Rhys, sy'n ddeg oed. yn mynd iddi hi ond i Ysgol Gynradd Chwilog ger Pwllheli. Fe oedd ar slot 'Bach Bach ' rhaglen Dafydd a Caryl bore Mawrth diwetha ac mi ganodd e gân gyda'i gitâr i wrandawyr Radio Cymru 2. Ac fel d'wedodd Caryl beth sy'n well ar fore oer o Dachwedd na chlywed Deio'n canu 'Here Comes the Sun'.



Rhaglen Ifan Evans - Beti a Lynne

cefndirol - background

dod lan - to come up

groes yr heol - across the road

go iawn - in reality

sibrwd - whisper

dwy fenwy - 2 women

y rhan fwya - most

ymuno - to join

chi'n'bod - dych chi'n gwybod

rhwystfa - frustration

Deio Rhys o Chwilog yn fan'na yn dod â'r haul i stiwdio Radio Cymru 2. Ar raglen Ifan Evans ddydd Mawrth dwy actores gefndirol, neu extras, yn Pobol y cwm oedd yn hel atgofion am fod yn rhan o'r rhaglen ers yr wythdegau. Beti a Madge ydyn nhw ar Pobol y Cwm ond Bet Jones a Lynne Howells ydy eu henwau cywir. Fel y cawn ni glywed mae hyd yn oed gweithio yn y cefndir ar yr opera sebon yn medru eich gwneud yn enwog.



Bore Cothi - Cath Ayres

cymeriad - character

cyfres - series

fy newis i - my choice

anghyfforddus - uncomfortable

Duw â wyr - goodness knows

hyder - confidence

yn gyffredinol - generally

cyffwrdd - to touch

cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr - producers and directors

fel'na weli di - that's how you'll see it

O opera sebon mwya poblogaidd Cymru i un o operâu sebon mwya poblogaidd Prydain - Coronation Street. Mae Cath Ayres yn actio'r cymeriad Tara yn yr opera sebon hwnnw ar hyn o bryd ac ar Bore Cothi ddydd Mercher buodd hi'n sôn wrth Shan sut gwnaeth ei thad ei helpu i gael rhan yn y gyfres.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru, Golff, Madrid!

Nesaf

Hal Robson, Hal Robson-Kanu