Pwy nesa fydd yn symud i'r sedd wag ym Mharc Goodison, (a Watford tra ‘ da ni wrthi) ?
Job arall dros dymor byr efo methiant yn cael ei warantu cyn hyd yn oed apwyntio’r olynwyr?
Ia, mae dewis rheolwr, a chynnig cytundeb dros gyfnod hir wedi dod yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn ofalus.
Doedd gen i fawr o hyder na fawr o awydd pan welais fod Marco Silva wedi cyrraedd ar Lannau’r Merswy - doedd o ddim wedi gwneud fawr yn fy marn i, a fyddai'n arwain Everton o’r anialwch sydd wedi ei greu iddynt gan Jurgen Klopp y drws nesa,’ a doedd ei gefndir ddim wedi fy argyhoeddi mai dyma’r Moses newydd i'n harwain i wlad yr addewid
Yn wir, pan ddaeth hi’n amser teithio drwy'r Môr Coch nos Fercher, boddi ynghanol tonnau o ymosodiadau miniog a wnaeth y tîm cyfan, gyda Silva yn edrych yn hollol ddryslyd wrth y lan.
Felly, diolch a ffarwel oedd hi'r diwrnod canlynol.
Ond, pwy nesa’ ?
Fel arfer mae nifer o enwau wedi eu crybwyll, gan gynnwys rheolwr ifanc ac addawol Bournemouth, Eddie Howe, a’r profiadol (os nad yn yr uwch gynghrair) Chris Wilder o Sheffield United. Dyma ddau reolwr sydd wedi gwneud eu marc yn yr uwch gynghrair a hynny yn sydyn, ac rwy’n deall yn iawn pam maent yn cael eu henwi.
Ond, i mi, rheolwr sydd wedi llwyddo drwy gael amser i greu tîm, a datblygu chwaraewyr dros amser ydi’r ddau yma, a dydw’i ddim yn tynnu dim oddi wrthynt am eu llwyddiant, a dylid edmygu eu clybiau am roi amser iddynt a’r gefnogaeth maent wedi eu cael.
Ar y llaw arall, nid tîm sydd am gael ei datblygu dros gyfnod maith o amser sydd ei angen ar Everton (na Watford chwaith) ond llwyddiant parod a fyddai’n codi gobeithion unwaith eto yn y ddau glwb, sydd ar hyn o bryd yn edrych o ddifrif ar y posibilrwydd o ddisgyn allan o'r uwch gynghrair ar ddiwedd y tymor.
Mae’r ddau glwb hefyd wedi bod yn newid rheolwr yn ddiweddar yn fwy aml na mae rhan fwyf ohonom yn newid trôns - Everton o dan berchnogaeth, Farhad Moshiri wedi gweld y biliwnydd yn apwyntio pedwar rheolwr (Ronald Koeman, David Unsworth, Sam Allardyce a Marco Silva) ers iddo afael yn yr awennau ar Barc Goodison yn 2016.
Draw ar gyrion Llundain, mae nhw wedi gweld naw rheolwr yn mynd a dod ers iddynt gael gwared â Gianfranco Zola yn 2013, a dim ond deg gem a barhaodd Quique Sanchez Flores yno ar ôl dychwelwyd am yr ail waith yn llawn addewidion fel rhyw Feseia sanctaidd i’r dyfodol newydd.
Yn ôl I Lannau Merswy, ac a oes ‘na achubwr ar y gorwel i Everton?
Mae son mai David Moyes fydd yn dychwelyd - Meseia arall osododd ei farc yno am gyfnod o dros ddeng mlynedd rhwng 2002 a 2013 (ydi'n chwe blynedd ers iddo godi ei bac a mynd i Manchester United?!)
A hynny o bosib ar gytundeb dros dro i geisio rhoi trefn ar bethau.
Wel wir, aeth Sanchez Flores o Watford ar gytundeb hir dymor, ond doedd o ond yno am dri mis, a llwyddo i ennill ond unwaith, felly be ydi gwerth cytundeb hir dymor derbyn heddiw.
Mae Moyes yn adnabod Everton yn dda, ac er bod rhai yn dweud na ddylid mynd yn ôl i’ch cyn clwb (mae Watford yn enghraifft dda o hyn!), a fydd Moyes yn dychwelyd i'r un lle a adawodd?
Heblaw'r enw, cyflwr a threfn yr adeilad (sef Parc Goodison) does yna fawr ar ôl a oedd yn debyg i'r hyn a oedd yno gynt.
Clwb newydd efo’r un enw o bosib - a gyda Moyes yn gwybod yr hyn sydd ei angen, ac yn un a allai fynd i'r afael ar bethau yn sydyn, pam lai na gofyn iddo ddod yn ôl i achub y rhai sydd yn dal i chwilio am gymorth ar ôl y methiant yn erbyn tonnau gwyllt y môr coch.
Melys Moyes eto? Gawni weld!
Hwyrach o’r diwedd y bydd Moshiri wedi gwneud dewis doeth am y tro cyntaf!
Main content
Blog comments will be available here in future. Find out more.
