Main content

Blog Ar y Marc - Sylwdau Raymond Verhaijen

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ychydig o amser yn ôl fe awgrymwyd imi y dylwn drydar er mwyn dod i ddarganfod gwahanol agweddau ar bynciau. Yn fy achos i - darganfod sylwadau ar bêl droed.

Felly y bu a diddorol - a hefyd diflas ydi rhai o’r negeseuon.

Heblaw dysgu am bethau hollol hurt fel be mae rhywun yn ei fwyta i frecwast , fe geir ambell i sylw sydd yn synnu rhywun.

Un o’r trydarwyr mwyaf cyson ydi cyn is reolwr tîm cenedlaethol Cymru, Raymond Verhaijen.

Mae’n eithaf amlwg ei fod yn barod i gynnig ei farn am bawb a phopeth yn y byd pêl droed. Tydi o ddim yn gefnogwr mawr o ddull chware na thactegau timau Uwch Gynghrair Lloegr ac mae yn ddiweddar wedi cyfeirio ar David Moyes fel deinasor!

Ond yn nes adref, tydi Verhaijen ddim yn meddwl llawer o drefn pêl droed yng Nghymru wedi iddo ymadael ar ôl marwolaeth Gary Speed.

Mae’r negeseuon diweddaraf yn ei gwneud hi’n amlwg nad ydi o yn gefnogwr mawr o’r drefn hyfforddi, yr hyfforddwyr, na threfn y Gymdeithas Bel Droed o fewn Cymru.

D’oes ond ichi fynd mewn i negeseuon trydar y gŵr yma o’r Iseldiroedd i ddeall beth ydwyf yn cyfeirio ato.

Ynghanol ei feirniadaethau o drefn pêl droed rhyngwladol Cymru - fe anfonais neges ar y trydar rai dyddiau yn ôl yn ei herio i enwi'r tîm gorau y gallasai Cymru ei roi ar y Cae, er mwyn gweld os y gallai ef wneud yn well !

Dwi eto i weld yr ymateb (os nad oes rhywbeth wedi digwydd yn ystod yr wythnos yma!).

Trist gan y byddai rhywun yn meddwl y byddai gwr sy’n ymddangos mor feirniadol yn barod i rannu ei syniadau, a chynnig ei ddewisiadau ble mae ei dafod, a rhoi pwnc trafod i ni.

Tybed be mae aelodau Cymdeithas Bel Droed Cymru yn ei wneud gyda sylwadau eu cyn weithiwr cyflogedig?

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 18 Medi 2013