Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Gorffennaf 1af - 7fed 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Aled Hughes - Fformiwla 1

trydydd - third

cystadleuaeth - competition

drwy Brydain - throughout Britain

gwahanol swydd - different jobs

creu - to create

cadw trefn - in charge

genethod/genod - merched

fatha - yr un fath â

cyflwyno'r holl beth - present the whole thing

ail-iaith - second language

"...ceir Fformiwla 1. Ond na, nid stori am y râs ei hun ydy hon ond stori am ferched Ysgol Gynradd Bro Gwydir yn Llanrwst. Daethon nhw yn drydydd mewn cystadleuaeth drwy Brydain i greu model o gar Fformiwla 1. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Aled Hughes efo'r plant fuodd yn gweithio ar y model ddydd Mawrth diwetha..."



Rhys Mwyn - Tynal Tywyll

ail-ffurfio - re-form

ymateb arall - another response

yn llygad ei le - spot on

pob gwall - every mistake

yn ddiweddarach - later

ddylsa chdi - dylet ti

athrylith - genius

cleifion - patients

cyflwyno - presenting

yr anrhydedd - the honour

"Da iawn genod Ysgol Gynradd Bro Gwydir Llanrwst ynde? Yn y podlediad wythnos diwetha mi glywon ni sgwrs am hen fandiau yn ail-ffurfio. Un o fandiau mwyaf poblogaidd yr wythdegau oedd Tynal Tywyll o Ddyffryn Ogwen, ac mae Ian Morris oedd yn aelod o'r band wedi dweud ei bod yn bosib byddan nhw'n ail-ffurfio hefyd. Ian oedd gwestai Rhys Mwyn ar ei raglen nos Lun, ond trafod band arall sydd wedi ail-ffurfio, Datblygu, maen nhw yn y clip nesa 'ma... "



Stiwdio - Eisteddfod Llangollen

ers ei sefydlu - since it was founded

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol - International Musical Eisteddfod

Cyfeillion yr Eisteddfod - Friends of the Eisteddfod

ail ryfel byd - Second World War

cynrychiolwyr gwledydd - the representatives of the countries

yn awyddus - eager

gwahanol wyliau - different festivals

anffurfiol - informal

rhannu eu diwylliant - sharing their culture

gwrthodwyd - was refused

"Ian Morris oedd hwnna yn siarad am y band Datblygu efo Rhys Mwyn. Eleni mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ddathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu, ac ar Stiwdio wythnos yma buodd Gethin Davies, un o Gyfeillion yr Eisteddfod yn egluro o le daeth y syniad am Eisteddfod Ryngwladol..."



Bore Cothi - Roy Noble

gwledd - a feast

diwylliannau - cultures

cymeriad - character

profiad - experience

ansicr - unsure

colli cwsg - losing sleep

bwrw'r celfi - knocking over the furniture

cyfarwyddwr - director

croesawus - welcoming

cyfleusterau - facilities

"..ac mi roedd yr Eisteddfod yn wledd o liw, o ieithoedd ac o ddiwylliannau gwahanol yn dod at ei gilydd yn haul Llangollen. Gwych ynde? Mae na gymeriad newydd yn Pobol y Cwm wythnos yma, sef Adrian, brawd Jim. Roy Noble sydd yn actio'r rhan ac mi gafodd Shan Cothi sgwrs efo fo ar ei rhaglen ddydd Mercher. Sut fath o brofiad oedd actio yn yr opera sebon enwog tybed?"



Mwy o negeseuon

Blaenorol

#40Mawr: 10 Uchaf Aled Hughes

Nesaf

#40Mawr: 10 Uchaf Kate Crockett