Petawn, fel Cymro, yn cael dewis dau dîm i gyrraedd ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yng Nghaerdydd, mae’n debyg mai Juventus a Real Madrid y baswn wedi ei ddewis.
All neb feddwl am Juventus heb feddwl am John Charles, y Cymro o Abertawe a ymunodd, a’r clwb yn y pumdegau hwyr. Yn wir, agorodd Charles y ffordd i'r pêl droedwyr hynny sydd wedi dilyn ei daith i'r cyfandir byth ers hynny, gan mai dim ond un chwaraewr, sef John Fox Weston a oedd wedi mynd tramor cyn y pum degau, a hynny o Fulham i Real Madrid yn 1948.
Roedd cychwyn Charles gyda Juventus wedi arwain a gosod y safon. Llwyddodd i sgorio’r goliau allweddol wrth ennill ei dair gem gyntaf i'r clwb.
Gosodwyd y safon a gorffennodd y Cymro ar frig rhestr sgorwyr Serie A yn ei dymor cyntaf (1958) wrth i Juve gipio’r Scudetto. Aeth mlaen i ennill y bencampwriaeth dwywaith yn ychwanegol (yn 1960 a 1961) a hefyd ennill Cwpan yr Eidal ddwywaith (1959 a 1960).
Roedd Charles yn llwyddiant ysgubol ac a ddatblygodd i fod yn un o gewri ac arwr pennaf y cefnogwyr. Ewch ar wefan Juventus ac yno cewch weld gwerthfawrogiad y Biaconeri i’r Cymro. Mae tair seren uwchben bathodyn y clwb ar gyrs Juventus, uwchben bathodyn y clwb, a llwyddiant tîm John Charles a arweiniodd at y cyntaf, sef cydnabyddiaeth am ennill deg Scudetto (pencampwriaeth yr Eidal), a dyna oedd y tro cyntaf erioed i unrhyw glwb gael caniatâd i osod seren ar eu crysau.
Ers hynny, mae Juventus wedi ennill y Scudetto ugain gwaith, felly, gweler tair seren ar y crys erbyn heddiw. Felly edrychwch yn ofalus ar grys Juve, ac fe gewch eich hatgoffa am gyfraniad y Cymro pan sicrhawyd ymddangosiad y seren gyntaf.
O ran Real, wel d’oes dim mwy i ddweud na chyfeirio at arwr y presennol sef Gareth Bale, sydd eisoes wedi ennill Cwpan Ewrop gyda Real yn 2014 a’r tymor diwethaf, ac wedi cyfrannu’n helaeth i lwyddiant ei dim wrth ennill La Liga (cynghrair Sbaen) eleni. Fodd bynnag, mae’r Cymro o’r Eglwyswen yng Nghaerdydd wedi dioddef anaf yn ddiweddar a does ond obeithio y bydd yn holliach i chwarae ddydd Sadwrn a cheisio efelychu pum chwaraewr arall sydd eisoes wedi ennill y gwpan yn eu dinas genedigol.
Ond tua trigain mlynedd yn ôl fe ddois i ddysgu am dîm pêl droed arbennig yn Sbaen. Roedd yna son am ryw dîm o'r enw Real Madrid a lwyddodd i ennill cystadleuaeth newydd yn 1956, - Cwpan Ewrop ac fe syrthiais mewn cariad a’r fenter newydd bel droedaidd yma nes cael fy ysbrydoli i ddysgu mwy amdanynt.
Felly, fel llawer o fechgyn ifanc yn eu harddegau dyma anfon llythyr i'r clwb yn gofyn am raglen, neu lun, neu unrhyw femorabilia y gallwn ei gael. Ychydig amser yn ddiweddarach daeth amlen a stamp Real Madrid arno i'r tŷ, a llun o’r tîm wedi ei arwyddo (mewn print) gan bob un o'r chwaraewyr a chwpan Ewrop yn y canol.
Aeth Real ymlaen i ennill pob un o’r pedwar Cwpan dilynol ac fe ysgrifennais yn flynyddol yn fy arddegau am luniau neu unrhyw atgof arall o'r achlysur. Heddiw mae gen i dri llun wedi ei arwyddo, a rhain yn ganolbwynt fy niddordeb cynnar yn y gêm ar y cyfandir. Roedd yn dipyn o beth eu derbyn , ac erbyn heddiw maent wedi cael eu gosod mewn ffrâm ac yn rhan ganolog yng nghegin y tŷ. Wrth dderbyn y trysorau yma, rhoddwyd genedigaeth i freuddwyd, sef ymweld â stadiwm Santiago Bernabeu ym Madrid i weld Real yn chwarae.
Ysbardun fwyaf y freuddwyd oedd y bumed fuddugoliaeth a gipiodd Cwpan Ewrop mewn gem fythgofiadwy ym Mharc Hampden yng Nglasgow. Llwyddodd Real i roi perfformiad perffaith wrth guro Eintracht Frankfurt o'r Almaen o saith gol i dair gan ennill calon bachgen ifanc o Borthmadog yn y broses. Wedi’r cwbl, faint o dimau oedd yn ennill o saith gol i dair mewn unrhyw gêm, heb son am Ffeinal Cwpan Ewrop?
Yn sgil fy uchelgais yn dilyn y perffeithrwydd pêl droedaidd yma, ynghyd a'r cynnwrf a’r dirgelwch o fewn y bel droed Ewropeaidd tramor newydd , a’r freuddwyd o bererindod a fagwyd cofiaf fyth fy Mam yn deud 'Hwyrach, os byddi yn gweithio yn galed, y cei fynd yno rhyw ddydd!'
Tua thair blynedd yn ôl, daeth fy mreuddwyd yn fyw. Aeth Ann fy ngwraig a finnau ar wyliau i Fadrid gan wireddu'r bererindod freuddwydiol a fagwyd mor bell yn ôl. Wnâi ddim mynd i fanylder ynglŷn â'r emosiwn dagreuol a ddaeth drosof wrth gyrraedd y stadiwm.
Ond roeddwn yno, ynghanol eglwys gadeiriol fy mreuddwydion, ac yno i weld Real Madrid yn chwarae yn erbyn Sevilla.
Yn ogystal, roedd hon hefyd yn gyfle i weld y Cymro ifanc Gareth Bale yn cychwyn ei gem gyntaf ar y Bernabeu dros dîm y Madrilenos.
Cefais wledd! Roedd Bale yn llenwi'r Bernabeu gyda pherfformiad grymus a dawnus, yn dawnsio'n ddisgybledig dros y dacl gyda’i allu anhygoel. Hwyrach for Real wedi prynu'r cyfaill gwerthfawroga’ erioed, ond roedd y noson yn dystiolaeth o gampwaith y dewin o Gaerdydd, a ddaeth ac atgofion byw yn ôl imi am ddyddiau hir melyn tesog Alfredo di Stefano, Puskas a Gento.
Chwalwyd Sevilla yn deilchion, dwy gol i Bale, tair i Cristiano Ronaldo a dwy arall i Kasim Benzima. Dyna ichi beth ydi cyflawni breuddwyd. Ie, saith gol i dair i Real Madrid - yn union fel y gêm yna a sbardunodd cymaint aran hanner can mlynedd yn ôl.
Ac yna, ymysg yr emosiwn, yn rhywle, roedd llais annwyl, cariadus, nefolaidd a chyfarwydd yn galw - ‘Ddeudes i do!’ Ie Mam, roeddech chi yno hefyd.
Mwynhewch ffeinal Cwpan y Pencampwyr y Sadwrn yma, Real Madrid yn erbyn Juventus, - tim Gareth Bale yn erbyn clwb John Charles.
*Y pum chwaraewr sydd wedi ennill Cwpan Ewrop yn eu dinas enedigol ydi:-
Nicolas Anelka (Paris 2000) - i Real Madrid 3-0 Valencia
Angelo di Livio (Rhufain 1996) - Juventus 4- 2 Ajax
Alex Stepney (Llundain 1968) – Manchester United 4-1 Benfica
Miguwl Munoz ac Enriques Mateos (Madrid 1957) - Real Madrid 2-0 Fiorentina
