Ddydd Iau, Mawrth 14 @ 1400 bydd Kate Crockett yn cyhoeddi ar raglen Stiwdio pwy sydd wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Taliesin a Radio Cymru. Yn dilyn rhaglen Stiwdio bydd yr actor Dewi Rhys Williams yn darllen y stori fuddugol.
Mae'r cylchgrawn llenyddol Taliesin yn 50 oed ac i ddathlu mae wedi uno â BBC Radio Cymru ar gyfer y gystadleuaeth hon i ysgrifennu Stori Fer newydd, a honno yn un sy'n cynnig gwobr sylweddol o £1000.
‘Roedd cyfle i bawb anfon un stori fer dan 5,000 o eiriau i'r gystadleuaeth ar unrhyw destun. Cadeirydd y panel beirniadu yw'r llenor adnabyddus Mihangel Morgan gyda Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru, Siân Melangell Dafydd, Golygydd Cylchgrawn Taliesin a Angharad Elen, Golygydd Cylchgrawn Taliesin hefyd yn beirniadu.
Fe fydd y stori fuddugol hefyd yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Gwanwyn 2013 o gylchgrawn Taliesin sydd ar gael nawr.
