Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 17/11/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dewi Llwyd ar Fore Sul – Bryn Terfel

cerddorfa - orchestra

fy maes i - my field (of work)

plu - a feather

amrywiaeth - variety

uchelael - highbrow

ymuno â - joining with

mabwysiadu - to adopt

entrychion - the high notes (lit:zenith)

dangos fy hun - (I was) showing off

clywediad - audition

...Dewi Llwyd yn dymuno penblwydd hapus i Bryn Terfel. Roedd y canwr opera enwog yn dathlu ei benblwydd yn bumdeg oed ddechrau'r wythnos diwetha a fo oedd gwestai penblwydd rhaglen Dewi Llwyd ddydd Sul. Dan ni i gyd yn gwybod am yrfa Bryn ym myd yr opera, ond yn ddiweddar mae o wedi bod yn gweithio ar rywbeth gwahanol iawn. Dyma fo'n dweud yr hanes wrth Dewi...

Rhaglen Dylan Jones – canu cerdd dant

un sill - one syllable

llithro - slide

uchelfannau - the high places

tannau - strings (of a harp)

llefaru - to recite

adrodd i gyfeiliant - accompanied reciting

Codiad yr Ehedydd - The Rising of The Lark(a song)

alaw - tune

dipyn o her - a bit of a challenge

gosod - to set

...Miss Terfel wir, druan o Bryn! Mae Bryn wrth gwrs yn canu pob math o ganeuon: opera, caneuon sioe a gwerin, ond tybed oedd o'n canu cerdd dant pan oedd o'n ifanc? Math arbennig o ganu Cymraeg ydy cerdd dant ac mi roedd Gŵyl Cerdd Dant fawr yn cael ei chynnal ym Mhortcawl dros y penwythnos diwetha. Dydy canu cerdd dant ddim yn hawdd, ac mi fuodd Dylan Jones yn trio dysgu’r grefft dros yr wythnos diwetha, gyda help y delynores Gwennan Gibbard. Doedd Dylan erioed wedi canu cerdd dant o’r blaen a dyma sut y dechreuodd Gwennan ei ddysgu ddydd Llun...

C2 Ifan Evans – Emma Jenkins, Miss Cymru

paratoadau - arrangements

noddi - sponsoring

dod at ei gilydd - coming together

gwaith elusennol - charity work

cystadlu - competing

saib - a break

diogelwch - safety

llysgennad - ambassador

parchus - respectful

plant difreintiedig - disadvantaged children

Ac mi gawn glywed sut roedd Dylan Jones yn swnio ar ôl iddo fo gael wythnos o hyfforddiant ar glip ola'r podlediad yma. Nos Fawrth ar C2 mi gafodd Ifan Evans sgwrs efo Emma Jenkins sef Miss Cymru. Bydd Emma yn mynd mynd i China cyn bo hir i gystadlu am y teitl Miss Byd. Bydd hi'n cystadlu am fis cyfan, ac mae hi’n poeni braidd am y paratoadau...

Rhaglen Dylan Jones – canu cerdd dant

y gamp - feat

crefftwr - craftsman

edmygu - to admire

unawd agored - open solo

nawdd - sponsorship

ysgafnder - lightness

yn weddol rhwydd - fairly easily

mymryn yn wahanol - a little bit different

tanlinellu - to underline

pwyslais - emphasis

Emma Jenkins yn fan'na oedd ychydig yn llai nerfus am gystadleuaeth Mis Byd nag oedd Dylan Jones am orfod canu Cerdd Dant yn fyw ar y radio! Ond chwarae teg iddo fo, ar ôl wythnos o ymarfer a hyfforddi mi ganodd Dylan Jones gerdd dant am y tro cyntaf erioed ei raglen Ddydd Gwener a dyma’r ‘tips’ funud olaf oedd gan Gwennan Gibbard iddo fo!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyfoeth Cerddoriaeth Cymru

Nesaf

Dyfodol addawol i dimau Cymru