Main content

Cychwyn y Gynghrair Bêl-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gan mlynedd a chwarter yn ôl, ym Mis Medi 1888, dechreuodd y gemau cyntaf yn y Gynghrair Pêl-droed yn Lloegr.

Preston North End oedd y pencampwyr cyntaf, heb golli unrhyw gêm.

Ond tybed beth oedd cyfraniad chwaraewyr o Gymru i ddatblygiad cynnar y gêm. Mae tystiolaeth ar gael fod timau ardal Manceinion o gwmpas y cyfnod yn frith o Gymry.

Roedd tîm Newton Heath, sef tîm Cwmni Rheilffordd Siroedd Caerhirfryn ac Efrog ( a ddaeth i gael eu hadnabod fel Manchester United yn nes ymlaen) yn barod iawn i edrych tuag at Gymru am chwaraewyr.

Gan nad oedd rheolau yn caniatáu chwaraewyr proffesiynol daeth y Cymry i gael eu cyflogi fel gweithwyr i'r cwmni rheilffordd.

Roedd y rhan fwyaf o rhain wedi cael profiad gyda thimau yng ngogledd ddwyrain Cymru, timau fel y Derwyddon neu’r Waun. Yn eu mysg oedd chwaraewyr rhyngwladol megis Joe Davies, Tom Burke a’r brodyr Doughty, sef Roger a Jack. Ymddengys fod y ddau frawd yma yn allweddol yn natblygiad Newton Heath gan godi safon chwarae'r clwb a rhoi’r hwb i ymuno a’r gynghrair rhai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Ond doedd mewnfudiad yr estroniaid Cymreig ddim heb ei helyntion fodd bynnag.

Wrth arwyddo'r Roger a Jack Doughty o glwb y Derwyddon ac yna'r chwaraewr rhyngwladol John Owen o’r Waun daeth Newton Heath i drafferthion gyda'r Gymdeithas Pêl-droed yn Llundain. Honnodd y Derwyddon fod y tîm o ardal Manceinion wedi denu'r chwaraewyr yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, anwybyddwyd cwyn y Waun ac aros gyda Newton Heath fu hanes y tri.

Cyrhaeddodd Jack Powell , Cymro arall o Bolton Wanderers, i weithio fel ffitiwr, ar amod ei fod yn chwarae pêl-droed i Newton Heath a daeth Powell yn allweddol yn hanes y clwb gan eu harwain i'r gynghrair yn 1892.

Cymaint oedd mewnfudiad y Cymry i ardal Manceinion nes gweld tîm, yn 1887/8 o safon uchel o'r enw Manchester Welsh yn cael ei ffurfio.

Cymaint hefyd oedd dylanwad y Cymry ar bêl-droed ym Mancceinion, nes, ar y cyntaf o Hydref 1887, cyhoeddodd y Manchester Evening News fod tîm Newton Heath yn cynnwys llawer o estroniaid, sef - "Burke, Davies, Powell, Owen a Doughty - Cymry i gyd ac ynghyd a Tait yr Albanwr ac O’Donnell y Gwyddel, does dim modd cydnabod unrhyw chwaraewr lleol yn y tîm!" Estroniaid hwyrach, ond allweddol yn hanes cynnar Manchesrter united a'i datblygiad buan i fod yn aelodau o Gynghrair Lloegr.

Ond ymlaen i enedigaeth y Gynghrair ym mis Medi 1888, a faint o Gymry a welwyd ar hyd a lled caeau'r Cynghrair Pêl-droed newydd?

Ble gwell i gychwyn na gyda Preston North End, y pencampwyr? A dechrau yn y gôl gyda dau Gymro sef, James Trainer a Robert Mills Roberts.

Gwr o Wrecsam oedd Trainer, a gafodd ei enwi fel golwr gorau'r gynghrair am rai blynyddoedd. Dechreuodd chwarae i glwb Penybryn Wanderers, yna ymlaen i dîm Wrecsam Victoria cyn symud i glwb Wrecsam ac yna Bolton Wanderers. Ymunodd a Preston ar gyfer y gynghrair newydd gan aros yno a chwaare 253 o gemau ac ugain arall dros Gymru. Ond diwedd trist sydd i hanes Trainer gan iddo symud i Lundain i fyw a marw mewn tlodi yno, yn 1915. Ychydig iawn a wyddid am Trainer a hwyrach fodei hanes yn rhywbeth a ddiliud dderbyn fwy o sylw heddiw.

Ond nid Trainer oedd yr unig Gymro yn nhîm Preston.

Ail olwr y clwb gan chwarae dwy gêm yn y gynghrair yn y tymor agoriadol, a’r un a oedd yn chwarae yn gyson iddynt yng ngemau Cwpan Lloegr oedd Robert Mills Roberts, gwr yn enedigol o Benmachno. Aeth ymlaen i astudio i fod yn feddyg yng ngholeg Sant Thomas yn Llundain.

Chwaraeodd wyth gêm yn y gôl i Gymru ac roedd yn y gôl( fel amatur) i Preston wrth iddynt gipio Cwpan Lloegr yn 1885 a 1889.

Canolbwyntiodd Mills-Roberts ar ei yrfa fel meddyg ac am gyfnod bu'n gweithredu fel meddyg chwarel lechi Dinorwig yn ardal Llanberis.

Cymry eraill a fu'n chwarae gyda thimau yn y tymor cyntaf yma oedd Dai Jones ( o Drefonnen, Sir Amwythig) gynt o glwb y Waun, yna cefnwr i Bolton Wanderers am ddeng mlynedd ar ôl trosglwyddo o Newton Heath. Fo oedd capten Bolton a gollodd yn ffeinal Cwpan Lloegr i Notts County yn 1894.

Arwyddodd George Farmer (yn enedigol o Groesoswallt), gydag Everton - y chwaraewr proffesiynol cyntaf i gael ei arwyddo gan Everton - yn 1885. Roedd ei rieni yn enedigol o ardal Llansanffraid a Berriew .

Hefyd yn nhîm Everton yn y tymor agoriadol oedd Bob Jones o Wrecsam a chwaraeodd saith gem cyn symud i Ardwick ( a ddaeth i gael eu hadnabod fel Manchester City).

Roedd Joe Davies o’r Waun hefyd yn aelod o glwb Everton, ynghyd a William Lewis sef y chwaraewr proffesiynol cyntaf a welodd Bangor . Ond dim ond tair gem a chwaraeodd y blaenwr cyn ymuno a thîm Dinas Bangor a'u helpu i ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn 1889 drwy guro Northwich Victoria ar Gae Ras Wrecsam.

Digon o gysylltiadau Cymreig felly a’r tymor agoriadol yn 1888, a digon o etifeddiaeth hanesyddol unwaith eto o fewn y byd pêl-droed.

Cyn cloi, os nad ydych yn ymwybodol pwy oedd y deuddeng tîm a ffurfiodd y Gynghrair Bêl-droed yn1888 yna dyma nhw:- Accrington, Burnley, Blackburn Rovers, Everton, Bolton Wanderers, Stoke City, Derby County, Wolverhampton Wanderers, Aston Villa, West Bromwich Albion, Notts County, a Preston North End.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llais Pêl-droed ar Radio Cymru

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: 22 Awst 2013