Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 3ydd - 8fed

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Ifan Evans - Miriam Alaw

gwefannau cymdeithasol - social media

swyddog y wasg - press officer

elusen - charity

trydar - twitter

cefnogwyr - supporters

triniaethau - treatments

gwahanol adrannau'r ysbyty - different departments of the hospital

er budd - for the benefit of

newyddiadurwyr - journalists

fedra i'(ddi)m cael digon - I can't get enough

"...mae Miriam Alaw yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond yn gweithio mewn ysbyty yn Llundain erbyn hyn. Dyma hi yn sôn ar raglen Ifan Evans am sut mae hi'n defnyddio'r gwefannau cymdeithasol yn ei gwaith ac yn ei bywyd personol... "



Shan Cothi - Americanes

anadlu - to breathe

annibyniaeth - independence

gorffwys - rest

dathlu - to celebrate

cymdogaeth - neighbourhood

tan gwyllt - fireworks

bandiau pres - brass bands

traed lan - feet up

dymuno'n dda - to wish well

colli cysylltiad - to lose contact

"Waw, dw i ddim yn meddwl bod Miriam Alaw wedi anadlu o gwbl yn y clip bach yna. Ond dyna ni yn cael syniad o sut mae'r gwefannau cymdeithasol yn dod yn fwy ac yn fyw pwysig ym mhob rhan o'n bywyd ni. Roedd Gorffennaf y pedwerydd wrth gwrs yn ddiwrnod i ddathlu annibyniaeth Unol Daleithiau America. Mae'r Americanes Martha Davies yn byw yn Nebraska ond mae hi wedi dysgu Cymraeg. Mi fuodd hi'n sôn wrth Shan Cothi am y dathlu draw yn America ond mi roedd gan Shan syrpreis bach neis iddi hi... "



Rhys Mwyn - Americanwr

Athro - Professor

fy ngradd gynta - my first degree

llenyddiath - literature

darganfod - to discover

bwrlwm cyfoes - a modern buzz

ogof enfawr - a huge cavern

amgen - alternative

diwylliant - culture

cyfnod llwm - a sparse period

cyfoeth - richness

"Martha Davies o Nebraska yn fan'na yn teimlo'n emosiynol iawn. Mi fuodd Rhys Mwyn yn siarad efo rhywun arall sy'n dod o'r Unol Daleithau'n wreiddiol. Mae Jerry Hunter yn rhugl yn y Gymraeg, mae o'n Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ac mae o'n nofelydd sydd wedi ennill un o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma Jerry'n sôn wrth Rhys Mwyn am yr adeg daeth o i Gymru gynta... "



Aled Hughes - Ymddeol

rhoi'r gorau iddi hi - to give up

ystyried - to consider

rhoi'r ffidil yn y to(idiom) - to give up

pwyslais - emphasis

byd gwleidyddiaeth - the world of politics

boddhad - pleasure

ymateb y gynulleidfa - the audience's response

arbrofi - to experiment

arddull - style

sibrwd yn dy glust di - to whisper in your ear

"Jerry Hunter yn fan'na yn sôn wrth Rhys Mwyn am ei yrfa mewn band Cymraeg yn fuan ar ôl iddo fo gyrraedd Cymru o'r Unol Daleithiau. Wnaeth gyrfa Jerry fel cerddor ddim para cymaint ag un Dafydd Iwan! Mae Dafydd wedi ymddeol o'r byd canu sawl tro yn y gorffennol, felly fo oedd y person naturiol i droi ato i sgwrsio am y newyddion bod Paul Simon yn ymddeol yn 74 mlwydd oed ..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Fyddwn ni ddim yn rhedeg i Baris

Nesaf