Main content

Ffeinal Cwpan FA - Arsenal v Chelsea

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Penwythnos y Cup Ffeinal - na, does dim ffordd arall o’i ddweud,os ‘dach chi’n gefnogwr pêl droed go iawn!

Gem olaf Arsene Wenger? - pwy a ŵyr - mae rhywun yn Arsenal, a Wenger, yn siŵr o fod yn gwybod ond bydd rhaid i’r gweddill ohonan ni aros tan ar ôl y canlyniad!

Beth bynnag fydd y dyfodol, siawns na welwn reolwr pêl droed sydd yn rheoli tîm yn cynnwys y pen llythyren gyntaf o’i enw yn enw’r clwb fyth eto - ARSENE = ARSENal!!!

Ond, gydag anafiadau yn yr amddiffyn ynghyd a gwaharddiad i Laurent Koscielny, fe fydd gan y Gooners fwy na llond llaw wrth geisio ymdopi ac ymosodiadau treiddgar Chelsea.

Felly'r dwbl i Chelsea? Anodd yw dadlau yn wahanol!

Pan oeddwn i'n ifanc, un o ddyddiau pwysicaf y flwyddyn oedd diwrnod y ffeinal.

Atgofion cynnar am Tom Finney gyda Preston yn erbyn West Bromwich, Stanley Matthews yn troi a throelli ei ffordd ar yr asgell i sicrhau buddugoliaeth yn ffeinal Matthews a bron pawb wedi anghofio fod Bill Perry wedi sgorio hatric i Blackpool wrth iddynt guro Bolton o bedair gôl i dair.

Manchester United yn erbyn Aston Villa, a'r golwr Ray Wood yn cael ei daro ar draws ei ên gan Peter McParland o'r Villa, Jackie Blachflower yn mynd i'r gôl a Wood yn mynnu cario ‘mlaen fel asgellwr. Bolton yn curo Manchester United a Nat Lofthouse yn taro'r golwr Harry Gregg i fyd arall wrth sgorio ac United eto yn colli.

Ie, mae’r atgofion yn ddi-ri - a diwrnod cyfan yn cael ei dreulio o flaen y teledu (ac wedi prynu rhaglen y gêm o flaen llaw a'i derbyn mewn da bryd drwy'r post)

Fe allai gario blaen am byth gyda’r atgofion, ond beth yw eich rhai chi?

Anfonwch nhw i mewn i Her y Marc a chawn glywed fore Sadwrn.

Mwynhewch y ffeinal.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

#40Mawr Radio Cymru