Main content

Adroddiad gem Man Utd v Abertawe

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cefais gyfle i weld Abertawe ddydd Sadwrn diwethaf, yn eu gem yn erbyn Manchester United yn Old Trafford.

Dau dîm sydd yn cael eu beirniadu, dau dîm sydd yn ei chael yn anodd sgorio, dau dîm sydd â honiadau am bwy fydd yn eu rheoli nesaf, a dau dîm sydd angen pwyntiau am wahanol resymau.

Gyda’r ansicrwydd ynglŷn â phwy fydd yn olynu Gary Monk fel rheolwr ar y Liberty, roedd patrwm disgybledig yn perthyn i’r Elyrch gyda’r cyd chwarae yn awgrymu fod yna ymateb positif a disgybledig i arweinyddiaeth Alan Curtis fel rheolwr dros dro.

Gydag Abertawe yn cadw pethau’n dynn yn amddiffynnol, roedd y sgôr ar hanner amser (0-0) yn adlewyrchiad teg o'r hyn a ddigwyddodd, (neu na ddigwyddodd, a bod yn feirniadol).

Yna, yn syth o’r cychwyn, cododd United dempo’r gêm ar gyfer yr ail hanner a manteisiodd Ashley Young ar ei gyflymder gan ddawnsio heibio Neil Taylor a chroesi'n gywir gan weld Anthony Martial yn penio’n gelfydd i gefn y rhwyd.

Er waethaf ymdrechion trefnus Abertawe, nid amser i amddiffyn oedd y cyfnodau dilynol hyn, a llwyddodd Andre Ayew i benio yn erbyn y postyn gan ddangos y gellir manteisio ar wendidau amddiffynnol y tîm cartref.

Ond d’oedd ddim digon o gysondeb yn eu chwarae, ac ysbeidiol oedd yr ymosodiadau gyda diffyg creadigrwydd ynghanol y cae yn golygu mai prin oedd y cyfleoedd.

Prin hefyd oedd ymateb chwim y blaenwyr i fanteisio ar unrhyw gyfle, a dengys y gêm fod ar Abertawe angen rhywun a all greu a chreu trafferthion y tu ôl i amddiffyn y gwrthwynebwyr, a hefyd bod angen chwaraewr all fanteisio’n well ar y cyfleodd i sgorio.

Ond yna, gan ddangos dyfalbarhad a chymeriad daeth Abertawe yn agos, a daeth peniad Ashley Williams a’r gorau allan o David de Gea yn y gôl.

Daeth pethau yn well gydag ugain munud yn weddill, a daeth Abertawe yn ôl i'r gêm, diolch i ben Gylfi Sigurdsson yn dilyn croesiad Mo Barrow a ychwanegodd gyflymder bygythiol i ymosodiadau .

Roedd yr hymns ac arias yn prysur gael ei morio fel emynau mawreddog cymanfa yng nghapel Treforys, dawelu'r ddrama o flaen cynulleidfa theatr y breuddwydion wrth iddynt ragweld y posibilrwydd o brofi hunllef arall ar y llwyfan o'u blaenau.

Ond nid felly y bu! Penderfynodd Wayne Rooney atgoffa pawb o’i allu a’i ddoniau wrth iddo droi croesiad gan Anthony Martial i mewn gyda’i sawdl i gefn y rhwyd gan sicrhau'r tri phwynt, a rhoi heddwch ysbeidiol i fywyd Louis van Gaal oddi wrth ei feirniaid am wythnos, o leiaf!

Ar yr ymddangosiad yma fe ddylai cefnogwyr y Swans gael digon o hyder yn eu tîm, a hefyd yn Alan Curtis, i'w harwain oddi ar waelodion yr Uwch gynghrair.

D’oes dim amheuaeth ei bod mewn brwydr rhag disgyn, ac yn hytrach na phoeni'n ormodol am bwy fydd y rheolwr nesaf, rwyf o'r farn mai gwneud ymdrech i sicrhau fod yna well chwaraewyr ar gael, i greu a gorffen cyfleoedd sydd eu hangen ar Abertawe.

D’oes gen i ddim amheuaeth chwaith fod Curtis yn ddigion da i ofynion presennol y swydd o arwain yr Elyrch i ddiogelwch ar gyfer y tymor nesaf.

Rwyf eisoes wedi gweld Aston Villa, Sunderland a Norwich yn chwarae'r tymor yma, a d’oes gen i ddim amheuaeth, er waethaf y frwydr a'r ymdrech o’u blaenau, na fydd Abertawe yn colli yn lle yn yr Uwch gynghrair, ond bydd rhaid cryfhau'r garfan.

Bydd mis Ionawr yn siŵr o ddatgelu pa chwaraewr fydd yn ymuno a pha glwb. Yn ôl y gêm yma , mae anghenion Manchester United ac Abertawe yn debyg iawn, sef rhywun i greu cyfleoedd a rhywun i fanteisio arnynt yn well . Ond mae’r rhesymau am chwilio am y math yna o chwaraewyr yn wahanol.

Petai rywun yn cael y cynnig i symud i Old Trafford, neu i'r Liberty, sut fath o ddewis fyddai hynny? Un sydd yn cynnig cyfnodau ar y fainc gydag un tîm, neu cyfleoedd cyson i ddylanwadu a gwneud argraff gyda thîm arall efallai?

Yna mae’r saga am reolwr parhau i Abertawe yn parhau? Tramorwr? Prydeiniwr neu Alan Curtis?

Bydd Ionawr yn siŵr o fod yn un pwysig i’r Elyrch, a gyda gem gwpan yn Rhydychen y penwythnos yma, a gem gynghrair yn erbyn Sunderland yr wythnos nesaf, fe all tŷ tymor gael ei chwyldroi yn gyfan gwbl, a hyder yn codi o fewn pythefnos.

Cawn weld cyn hir.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Tra Bo Dau - Karen Owen a Gwilym Owen

Nesaf

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Geirfa 13/01/2016