Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Seren - Carolau Seren
anawsterau dysgu - learning difficulties
gwaith cyfrifiadurol - computer based work
codi ysbryd - raising the spirits
hen weithdy - old workshop
celf a chrefft - art and craft
ail-gylchu - recycle
cefnogwr - supporter
datblygu - to develop
rhy gymleth - too complicated
gludo - sticking
...cwmni bach o Flaenau Ffestiniog, sydd efo enw addas iawn ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn - Seren. Cwmni ydy o sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ag anawsterau dysgu. Dydd Gwener roedd yna raglen arbennig yn edrych ar waith Seren, a dan i'n ymuno â'r criw wrth iddyn nhw gael egwyl fach o’r gwaith celf i ganu o gwmpas y piano. Cawn hefyd fynd am dro i’r Ffatri Fach lle maen nhw’n brysur iawn yn paratoi crefftau ar gyfer y Nadolig.
Rhagen Dei Tomos - Hogia Band Of Hope
Prif Weinidog - Prime Minister
ei osgordd - his retinue
canlynol - following
sbardunodd - inspired
yn fwy cyffredin - more common
Almaeneg - German language
dramodydd - dramatist
cefndir - background
dirprwyaeth - deputation
y cwbl lot - the whole lot
Criw arbennig Seren yn fan'na yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer y Nadolig. Mae ‘na gan mlynedd wedi mynd heibio ers i Lloyd George ddod yn Brif Weinidog. Mewn drama newydd ar Radio Cymru cawn hanes Lloyd George yn cael gwahoddiad i de parti gyda Hitler. Wrth chwilio mewn i'r hanes ar gyfer y ddrama 'Hogia Band Of Hope', daeth William Owen Roberts ar draws ffaith ddiddorol iawn. Dyma fo'n sgwrsio efo Dei Tomos...
Rhaglen Aled Hughes - Cinio Dolig Anti Olwen
arswydus - frightening
wedi'i gosod - has been set
sbïo - edrych
gweddill - the rest of
llysiau - vegetables
moron - carrots
beio - blaming
mynd o'i le - to go wrong
cynnig - offer
gwastraff - waste
Wel, wel, mae hi'n reit arswydus meddwl am y siaradwyr Cymraeg yna yn cael te parti efo Hitler yntydy? Parti bach ychydig yn wahanol gafodd Aled Hughes ym Mhennal, ger Machynlleth, wythnos diwetha. Pan oedd Aled ar ei daith feics ychydig yn ôl cyrhaeddodd o Ysgol Pennal yn hwyr, ac roedd o wedi colli cinio rhost Anti Olwen a’r criw. Doedd Aled ddim am golli cyfle i gael cinio Nadolig Anti Olwen felly aeth yn ôl i'r ysgol a helpu'r criw i baratoi’r cinio ar gyfer plant Ysgol Pennal.
Beti a’i Phobol - Ed Holden
yr henoed - the elderly
atgofion - memories
be' ar y ddaear - what on earth
plant digartref - homeless children
y boi sy biau - the bloke who owns
yng nghanol nunlle - in the middle of nowhere
tystysgrifau - certificates
dod yn gyfarwydd â - becoming familiar with
difreintiedig - disadvantaged
magu hyder - to gain confidence
Aled Hughes yn fan'na yn mwynhau cinio 'Dolig Anti Olwen yn Ysgol Pennal. Nos Iau roedd cyfle i ail glywed y sgwrs ddifyr gafodd Beti George ar Beti a'i Phobol gyda Ed Holden, y rapiwr enwog o Ynys Môn yn wreiddiol ond sydd rwan yn byw ym Mhorthmadog. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle roedd Ed yn sôn am y gwaith buodd ei fam a'i nain yn ei wneud efo plant ac efo'r henoed...
