Main content

Addasrwydd Caeau 3G

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dros y misoedd diweddar mae nifer o glybiau pêl droed Cymru wedi dangos diddordeb, / neu wedi sefydlu caeau 3G i chwarae arno.

I rai timau mannau hyfforddi ydi'r caeau yma, i eraill, dyma fydd wyneb y cae y byddant yn chwarae eu gemau cystadleuol arnynt, boed hynny yn Uwch gynghrair Cymru neu mewn cynghreiriau rhanbarthol.

Gyda grantiau ar gael i ddatblygu’r caeau artiffisial yma, mae’r cyfle i ddatblygu wyneb y cae chwarae yn demtasiwn mawr.

Beth felly ydi’r cymhelliad?

Yn ôl ffurflen gais Cymdeithas Bel Droed Cymru, fe ddylid gweld canlyniadau positif yn natblygiad medrau'r chwaraewyr.

Mae gwaith ymchwil gan Gymdeithas Bel Droed Lloegr ( ar 100 o gemau ar gaeau 3G) hefyd yn awgrymu nad oes yna unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng natur y gêm ar wair naturiol o'i gymharu ar wyneb 3G, a bod rhediad y bel yn well pan mae gwair 3G yn wlyb, ond nid yw’n ofynnol i'w ddyfrhau cyn pob gem.

Yn ôl tystiolaeth y gêm rhwng Cymru ac Andorra yr wythnos yma, ar gae 3G - 'scarecly believe' ydi fy ymateb i honiad gwerth y cae 3G!

Roedd yn edrych fel cae mwdlyd, gyda rhediad y bel yn annaturiol, neu o leiaf yn annarogan.

Roeddwn, fel nifer o sylwebwyr eraill, yn credu cyn y gêm na fyddai’r cae yma yn cael fawr ddim effaith ar y chwarae ; wedi'r cwbl tydi chwaraewyr proffesiynol yn gallu ymarfer ar y math yma o gae yn rheolaidd. Ac os gall chwaraewyr amaturaidd ymarfer arno yn gyson, yna pwy sy’n mynd i gwyno.

Mae'r enw 3G yn cyfeirio ar y drydedd genhedlaeth ( os dyna’r term cywir) o gae artiffisial, . Yn ôl yn y dyddiau cynnar, cafwyd caeau a oedd yn cynnwys tywod, a gwair artiffisial byr iawn ( megis caeau Oldham, QPR a Luton, yn ogystal â Hyde United ble pump gyda’r Rhyl yn nyddiau Uwch gynghrair Gogledd Lloegr)

Mae’r caeau diweddar gyda gwair hirach, ac wedi eu llenwi gyda gronynnau rwber sydd ag arweddion mwy cywir a fyddai'n cael eu cysylltu â chwarae ar gae naturiol, megis sbonc a rhediad y bel, caledwch yr arwyneb a chysylltiad y chwaraewyr a'r tir. Yn ôl yr honiadau fel dylai hyn roi arwyneb sydd yn fwy cyffyrddus i chwarae arno, gan leihau anafiadau i’r croen .

Tybed a fydd tystiolaeth Andorra yn gwneud i glybiau Cymru feddwl eilwaith am ddefnyddio cau artiffisial fel y prif gae ar gyfer gemau o hyn ymlaen?

Does gen i ddim amheuaeth fod caeau artiffisial yn gaffaeliad arbennig o dda ar gyfer hyfforddi a datblygu'r gêm a chwaraewyr ifanc, yn hytrach na chyfyngu hynny i neuaddau , neu gampfa, ac fel adnodd cymunedol mae nifer o’r caeau yma yn cael eu hysbysu.

Hwyrach yn ôl tystiolaeth anffortunus Andorra, mai defnyddio caeau 3G at hyfforddi byddai well ( cyn belled a bod yr wyneb yn dderbyniol) ac osgoi'r carped synthetig fyddai orau ar gyfer gemau cystadleuol yn Uwch gynghrair a chynghreiriau eraill Cymru os am weld medrau yn cael eu magu a'u defnyddio mewn sefyllfa gystadleuol!

Tipyn i feddwl amdano ar ôl gweld gem yn cael ei chwarae ar gae a oedd yn edrych fel petai yn fwy tebyg i rywbeth a oedd wedi ei adeiladu ar weddillion llwch llosg fynydd, na rhywbeth a oedd am hybu rhediad naturiol y bel, ac adnodd a fyddai'n datblygu medrau pêl droed i'r eithaf.

Tybed beth yw eich barn ch? Yn enwedig os ydych ar fin ystyried datblygu cae 3G i'ch tîm yn y dyfodol agos!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Tra Bo Dau - Aloma a John Pierce Jones