Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 13

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

Y rownd gyn-derfynol gyntaf, 21 Gorffennaf 2013: Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Ble mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth?

Dyma’r cwestiwn oedd ar wefusau tîm talwrn y Tir Mawr yr wythnos hon, a’r rheini heb Myrddin ap Dafydd wrth y llyw (yn llythrennol) y tro hwn.

Daethpwyd o hyd i Aberystwyth yn gymharol ddidrafferth, mae’n debyg. Ond mwy cyndyn oedd yr ysgol enwog honno, sef lleoliad y ricordiad heno, i ddatguddio’i hun i’r beirdd coll. A bu’n rhaid aros ac aros dan haul treuliedig Gorffennaf hyd nes i’r drindod faen lwybreiddio i’r neuadd.

Ond roedd yn werth aros, fel ag erioed yn hanes y Tir Mawr, oherwydd fe gawsant ornest i’w chofio yn erbyn Aberhafren.

Gosodwyd y safon gyda’r dasg gyntaf un, wrth i’r ddau dîm sgorio deg marc yr un am eu cwpledi caeth yn cynnwys y gair ‘ots’.

Yn wir, fe ddyfarnwyd deg marc bedair gwaith heno, ac ymhlith y beirdd a elwodd ar haelioni (neu haul-ioni, o bosib) y Meuryn oedd Rhys Iorwerth (Aberhafren) a’i gywydd yn gwahodd Russell Goodway i Ffair Tafwyl , ynghyd â Mari George (Aberhafren) am ei thelyneg ‘Trwsio’.

Mwy na hynny, fe gafwyd gan y ddau dîm ymdrechion wrth gefn a fyddai wedi bod yn ddewisiadau cyntaf gan y rhan fwyaf o dimau.

Cangen Aberystwyth o Ferched y Wawr oedd wedi gwahodd Y Talwrn yr wythnos hon, ac fe fentrais osod ‘Mae Merched y Wawr yn difaru’ fel llinell i’w chynnwys yn limrigau’r timau. A chan wybod taw Jôs (Gareth Jones) a fyddai’n datgan limrig y Tir Mawr, roedd gan Aberhafren y limrig hwn wrth gefn:

Roedd Merched y Wawr wedi mynnu

cael ‘motto’ gan fardd gorau Cymru,

ond Jôs o’r Tir Mawr

a’i sgwennodd, a nawr

mae Merched y Wawr yn difaru.

Ond roedd gan Jôs yntau ymdrechion ychwanegol, hon er enghraifft:

Mae Merched y Wawr yn difaru

Cael noson atgofion am garu:

Bu Efa Ty’n Pant

Yn rhestru’i holl blant

A dechrau esbonio pwy ddaru.

Peth prin ond comig iawn yw odl ddwbwl Gymraeg, ac mae’n talu ar ei chanfed o’i defnyddio yn y man iawn ac ar yr adeg iawn!

Er taw ‘Hysbyseb i’r Sioe Frenhinol’ oedd testun y drydargerdd, nid y Sioe Amaethyddol oedd pwnc cerddi’r Tir Mawr ar y dasg hon. Sioe frenhinol o fath arall aeth â’u bryd nhw:

Perfformiad bythgofiadwy

Gawn gan y wraig a’i gŵr;

Yn cychwyn naw mis union

O’r dydd cyn tyrr y dŵr.

Ie, perfformiad!

Nid ar chwarae bach mae curo’r Tir Mawr, ond wrth ddarllen telyneg Owain Rhys ‘Trwsio’, mae rhywun yn dod i ddeall pam taw Aberhafren a gariodd heno, a pham eu bod nhw yn un o dimau mwya dansierus y blynyddoedd diweddar.

Ymddiheuriadau felly i Owain na chefais gyfle i grybwyll y gerdd ganlynol yn ystod y rhaglen. Os yw’n unrhyw gysur iddo, byddai hon hefyd wedi haeddu marciau llawn:

Roedd dy weld yn annisgwyl,

yn anorfod,

ein cyfarch yn atsain

fel tafarn wag,

yr hergwd-gwtsh ’na

sydd rhwng dynion

yn lletchwith gysurus.

Holi hynt hwn a’r llall.

“A thithau?”

“Ti’n gwbod...”

A’r dagrau’n rhedeg.

Ro’t ti’n dda’n rhedeg –

rhedeg rhag dy dad

a rhedeg rhag dy frodyr.

Ac yn dy lygaid simsan

rwy’n gweld eu dyrnau, a gwaeth.

Es i gyda thi, weithiau,

i furddun ein haf,

i draeth oedd yn llawn cariadon,

i ben draw’r byd

ac yn ôl,

ond ddim ers sbel.

Rhwygo rhifau ar bapur,

ac addo ffonio,

i bwytho amser,

gan wybod

fod y niwed

wedi’i wneud.

Ymlaen ag Aberhafren felly i’r rownd derfynol am y pedwerydd tro yn y bum mlynedd diwetha. Tipyn o record.

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Tagiwyd gyda:

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar y Marc - Seintiau a Phrestatyn

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 25 Gorffennaf 2013