Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Ionawr 27, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'chiaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Dylan Jones - Monte Carlo



y gantorest a'r cyflwynydd - the singer and presenter

pencampwriaeth - championship

ymysg - amongst

ar ben arall - on the other end

wsti be - you know

cynnig - offer

cychwyn - start

seremoni agoriadol - opening ceremony

anhygoel - incredible

glawio'n drwm - raining heavily



...y gantores a'r cyflwynydd Elin Fflur yn Monte Carlo o bob man! Dw i'n siwr eich bod wedi clywed Elin ar Radio Cymru sawl tro a hefyd wedi ei gweld fel cyflwynydd ar S4C. Ym Monte Carlo wrth gwrs mae y ras geir enwog sef Pencampwriaeth Rali’r Byd. Roedd Elin yn sgwrsio efo Dylan Jones am y seremoni agoriadol, ond nid fel cyflwynydd ar ran S4C oedd Elin yno ond fel cantores. Dyma hi'n dweud yr hanes...



Bore Cothi - Cwsg

dihuno - deffro

pwnc trafod - topic of debate

rhaglen ddogfen - documentary

anadlu - to breathe

cyfrinach - secret

cyn lleied - so little

hanner ein hoes - half our life

difyr - diddorol

gorffwys - rest

dim co(f) - no memory



Gwych ynde, Elin Fflur o Ynys Môn yn canu o flaen sêr Hollywood. Da iawn hi, fedra i ddim meddwl am neb gwell i wneud hynny. Ydach chi'n cael trafferth cysgu? Os ydach chi, gwrandewch yn ofalus ar yr eitem nesa ma. Dr Harri Pritchard fuodd yn trafod cwsg efo Shan Cothi ac yn son yn arbennig am fathau gwahanol o gwsg



Cofio - Anne Frank




y fersiwn gyflawn - the complete version

wedi ei olygu - edited

goroesi'r rhyfel - survived the war

yn awyddus i gyhoeddi - eager to publish

deffroad rhywiol - sexual awakening

fersiwn diwygiedig - revised version

dirgel - hidden

y gair allweddol - the key word

gwendidau - weaknesses

yn glos - tightly knit



Difyr ynde? Mae na fwy i gwsg nac oedden ni'n feddwl yn does? Awn ni i gyfeririad hollol wahanol rwan. Ar Cofio yr wythnos diwetha mi glywon ni'r nofelydd Eigra Lewis Roberts yn sôn am y gwaith o gyfieithu dyddiadur enwog Anne Frank i’r Gymraeg. Cafodd y sgwrs ei recordio yn wreiddiol ym Mil Naw Naw Saith ar y rhaglen "Argraff". Elin Mair oedd yn holi Eigra a dyma i chi flas ar y sgwrs



Dewi Llwyd ar fore Sul - Bethan Gwanas




hunangyflogedig - self employed

rôn i angen pres - I needed money

dirwasgiad - recession

yn hurt braidd - rather stupid

argraffiad - edition

cenhedlaeth - generation

rhoi cynnig arni - give it a go

ysgoloriaeth - scholarship

sioe gerdd - musical

torri calonnau - braking hearts



Hanes cyfieithu dyddiadur Anne Frank i’r Gymraeg yn fan'na gan y nofelydd Eigra Lewis Roberts. Ac at awdures arall yr awn ni am y clip olaf. Dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi wedi darllen nofelau Bethan Gwanas. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd dydd Sul diwetha. Mae hi wedi ysgrifennu sawl nofel i ddarllenwyr iaith gynta, ond mae hi hefyd wedi sgwennu nifer o lyfrau ar gyfer dysgwyr. Faint ohonoch chi tybed sydd wedi bod yn dilyn helyntion Blodwen Jones? Wel, mi gawn ni glywed gan Bethan Gwanas rwan am y cam nesa ym mywyd Blodwen...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geraint Lovgreen ar Enw'r Gân