Main content

Ar Y Marc: Trydydd Rownd Cwpan FA Lloegr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roedd Wrecsam yn rhyw obeithio am gêm ddeniadol yn nhrydedd rownd Cwpan Lloegr.

Ac felly y bu.

Byd y Dreigiau yn teithio oddi cartref i wynebu Stoke City, gem sydd â nifer o gysylltiadau Cymreig.

Rheolwr Stoke ydi un o feibion pêl droed enwocaf Wrecsam, sef Mark Hughes, gyda Mark Bowen, Eddie Niedzwiecki , Mark Cartrwight a Damien Roden yno fel hyfforddwyr. Ar y cae fe fydd yr amddiffynnwr o Fwcle, Ryan Shawcross yn barod i daflu eu hun yn llawn angerdd i bob tacl i ddileu ymosodiadau Wrecsam tra bydd cefnogwyr Wrecsam yn falch o weld eu cyn blaenwr, Jon Walters unwaith eto.

Mae golwr ifanc Wrecsam, Dan Bachmann ar fenthyg ar y Cae Ras o Stoke, ond hwyrach na fydd yn bosibl iddo chwarae yn y gêm yma drwy drefn y benthyca, a bu un o gyn chwaraewyr enwocaf Stoke, Denis Smith, yn rheolwr ar Wrecsam ychydig flynyddoedd yn ôl.

Os am wel sioc fe fyddwn yn fwy cyfforddus yn awgrymu hyn petai’r gêm yn cael ei chynnal ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr. Ond gyda’r posibilrwydd o weld Mark Hughes yn gorffwys rhai o’i chwaraewyr yn y gêm yma, pwy a ŵyr na all Wrecsam ail greu'r cyffro sydd mor aml yn cael ei gofio pan maent yn y Gwpan, wedi iddynt guro Arsenal beth amser yn ol!

Bydd Caerdydd yn ffansio eu gobeithion adref yn erbyn Colchester, sydd yn ei chael hi’n anodd yn Adran 1 ar hyn o bryd, tra bydd Abertawe yn aros am ganlyniad y gêm ail chwarae rhwng Rhydychen a Tranmere Rovers cyn gwybod i ba gyfeiriad i yrru’r bws. Trip byr i Jacs y Gogledd hwyrach, draw i Lannau'r Merswy?

Y gemau i’w chwarae dros y penwythnos cyntaf ym mis Ionawr.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf