Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Pot noodle
gwastraff - waste
iachus - healthy
taflu - to throw
rhwydd a sydyn - easily and quickly
cymysgu - mix
wbath sgen ti - unrhyw beth sy gyda ti
amrwd - raw
ffa - beans
tollti - to pour
c'nesu - twymo
... bwyd gourmet, wel o fath felly. Pot noodle a dweud y gwir, ond nid pot noodle cyffredin. Mae'r actores a 'r gantores Lisa Jên yn gwneud ei phot noodle ei hun, a dyma hi'n disgrifio wrth Shan Cothi ddydd Iau diwetha, be yn union sy'n mynd mewn i'r potyn a sut mae hi'n ei baratoi...
Cofio - Llythyrau
llythyru - to correspond
trigain mlynedd - 60 years
anrheg - a present
genedigaethau - births
yn gysur - a comfort
ddaru chi - wnaethoch chi
mo'yn - eisiau
sefyll - aros
bord - bwrdd
yn ddiethr - unfamiliar
Lisa Jên yn fanna yn sôn am ei fersiwn hi o'r Pot Noodle. Gyda llaw mae gan fand Lisa Jên, 9Bach, albwm newydd o'r enw 'Tincian'. Mae'r albwm yma wedi cael ei enwebu am wobr Albwm Gwerin gorau Radio 2. Da ynde, a phob lwc iddyn nhw. Tybed ydy e-bost, Facebook a Twitter yn golygu nad oes yna lawer iawn o bobl ifanc efo pen-pals y dyddiau yma? Mae Mair Morgan o Frynaman wedi bod yn llythyrau efo pen-pal ers blynyddoedd ac wedi ei chyfarfod hi wyneb yn wyneb hefyd. Dyma hi'n rhoi'r hanes i John Hardy...
Ifan Evans - Dyddgu Hywel
carfan - squad
anaf - an injury
llinyn y gâr - hamstring
cyhoeddi - to announce
pwysau - pressure
hyfforddwyr - trainer
herio - to challenge
awyrgylch - atmosphere
strwythurau - structures
y gelynion - the enemies
Mair Morgan o Frynaman yn fan'na ar 'Cofio' yn sôn am lythyru gyda'i phen-pal. Roedd yna gêm rygbi fawr nos Wener yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ac yn anffodus colli wnaeth Cymru yn erbyn Lloegr. Ond mi roedd yna dal obaith y gallai merched Cymru wneud yn well, a churo merched Lloegr. Yn anffodus Lloegr ydy pencampwyr y byd! Sut oedd Dyddgu Hywel, merch ifanc sydd yng ngharfan rygbi merched Cymru, yn teimlo cyn y gêm fawr tybed? Dyma hi'n siarad efo Ifan Efans...
Beti A'i Phobol - Lowri Morgan
gwthio'r corff - pushing the body
cyhyrau - muscles
beichiogrwydd - pregnancy
uniaethu'n llwyr - empathise totally
pellter - distance
rhwygo - tearing
artaith - torture
eithafol - extreme
hunllef - nightmare
anturus - adventurous
...a'r newyddion gwych ydy bod tîm merched Cymru wedi curo merched Lloegr o 13-0. Gobeithio bod tîm y dynion wedi gwylio'r gêm iddyn nhw gael gwybod sut i ennill! A merch hynod o ffit sy ganddon ni yn y clip ola hefyd. Mae Lowri Morgan yn ferch anhygoel. Mae hi wedi rhedeg marathon yn fforest yr Amazon, wedi cymryd rhan mewn ras dros dri chant o filltiroedd yn yr Artig, ac wedi sgio a deifio mewn llefydd peryglus iawn. Mae hi'n disgwyl babi ar hyn o bryd - bydd hyn i gyd yn stopio rwan tybed? Ddim o gwbl, fel wnaeth hi esbonio wrth Beti George ar Beti a'i Phobol ddydd Iau diwetha...
