Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ebrill 8fed - Ebrill 14eg

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf.





"S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Ffion Emlyn dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …



...pryd mae rhywun yn troi o fod yn ifanc i fod yn ganol oed? Mae’n debyg bod canol oed wedi symud erbyn hyn, a dim ond dechrau bod yn ganol oed ydach chi yn eich pumdegau! Gaynor Davies fuodd yn sgwrsio am hyn bore dydd Mawrth efo'r Dr Cynog Prys sydd yn ddarthlithydd cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor...



Gaynor Davies a Dr Cynog Prys



darlithydd cymdeithaseg - sociology lecturer

diwydiant - industry

triniaethau meddygol - medical treatments

colur - make-up

cenhedlaeth - generation

disgwyliadau - expectations

ymddwyn - behaving

cymanfa ganu - hymn singing festival

cefnog - rich

disgwyliad oes - life expectancy







Cwestiwn arall wrth gwrs ydy pryd dach chi'n troi o fod yn ganol oed i fod yn hen! Gaynor Davies oedd yn siarad yn fan'na efo'r Dr Cynog Prys, a Gaynor sydd yn edrych ar ôl rhaglen Aled Hughes am bythefnos. Wythnos diwetha roedd hi'n bosib clywed ail raglen y gyfres newydd Y Golled sydd yn edrych ar y profiad o golli rhywun agos a sut mae rhywun yn galaru wedyn. Yn y rhaglen yma Helen Emmanuel Huws a Dafydd Williams sydd yn rhannu eu profiadau nhw.



Y Golled - Helen Emmanuel Huws a DafyddWilliams



prfoiad - experience

galaru - bereavement

prysurdeb - business

methu cael fy ngwynt - (I was) breathless

unigrwydd - loneliness

llond pobl - full of people

gofid - worry

cwympo - to fall

cryfder - strength

cymdeithasu - socialising





Blas ar ail ragen y gyfres Y Golled oedd hwnna a bydd y drydedd a’r olaf yn y gyfres i’w chlywed ar yr ugeinfed o Ebrill am hanner awr wedi hanner dydd ac mae'n bosib clywed y ddwy raglen gyntaf os ewch i wefan Radio Cymru. Mae gan Caio sy’n undeg saith mis oed ac sy'n byw yng Ngwyddelwern ger y Bala chwe Nain, neu i ddrysu Shan Cothi yn waeth, mae'n bosib bod ganddo fo saith ohonyn nhw! Dyma un nain Donna, ac un hen nain, Olwen Roberts, i egluro mwy.



Bore Cothi - 6 Nain



drysu - to confuse

hen nain - great-grandmother

hen hen nain - great-great-grandmother

bobol bach - goodness me

y goeden deulu - the family tree

pum cenhedlaeth - five generations

ymchwil - research

brest - chest

bedyddio - to baptise

doniol - funny





Saith nain - siŵr bod hynny'n torri rhyw fath o record! Buodd Geraint Lloyd ar daith feics wythnos diwetha, taith oedd wedi ei threfnu gan Ffermwyr ifanc Ceredigion. Dyma i chi glip bach o Geraint yn sgwrsio efo Mererid Davies, cadeirydd clwb ffermwyr ifanc Ceredigion, am y daith feics. Roedd yna dri chriw yn beicio dauddeg pum milltir i Aberaeron o wahanol lefydd ac mi aeth Geraint ar ei feic o Aberystwyth i Aberaeron.



Geraint Lloyd - Y Daith Feics



Cadeirydd - chair (person) 

mas o wynt - breathless

joio mas draw - really enjoy

tywynnu - shining

lan rhyw - up a hill

wnelech chi ddim - you wouldn't

brwdfrydedd - enthusiasm

cyd-dynnu - co-operating

dathlu - celebrating

gwaed - blood

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Wythnos hunllefus U.E.F.A

Nesaf

Marwolaeth Ugo Ehiogu