Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Beti a'i Phobol - Llinos Dryhurst Roberts
y fyddin - the army
llenwi ffurflenni - filling forms
holi - to ask
antur - adventure
hwylio - to sail
o'n tad! - I was indeed!
hanes celf - art history
heb radd - without a degree
lluchio'r pres - throwing the money
peth call - a wise thing
Mae Llinos Dryhurst Roberts yn rheoli ac yn coginio mewn caffi yng Nghaernarfon y dyddiau hyn ond mae ei hanes hi ychydig yn wahanol i'r cyffredin. Mae hi wedi treulio blynyddoedd yn y fyddin, ac wedi bod gyda nhw yn Bosnia sawl tro ac mi gafodd hi ei hanafu yn Irac pan oedd hi'n gweithio i gwmni preifat. Hi oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha, a dyma Beti'n gofyn iddi hi pam wnaeth hi benderfynu ymuno â'r fyddin yn y lle cynta'?
Cofio - Jon Gower
mabwysiadu - to adopt
beichiog - pregnant
nid o reidrwydd - not necessarily
rhestr etholwyr - electoral list
heb rybuddio - without warning
yr ergyd - the blow
deugeuniau cynnar - early 40's
ar fin priodi - about to marry
unrhyw dystiolaeth - any evidence
y cysylltiadau angenrheidiol - the necessary connections
Llinos Dryhurst Roberts oedd honna yn esbonio pam wnaeth hi ymuno â'r fyddin. Teulu oedd thema John Hardy ar Cofio yr wythnos diwetha ac mi glywon ni hanes Jon Gower cafodd ei fabwysiadu pan oedd o'n fabi bach. Aeth Jon i chwilio am ei fam naturiol pan oedd o'n oedolyn a dyma beth ddigwyddodd.
Rhaglen Aled Hughes - Washi Bach
trempyn - tramp
penodol - specific
ail ryfel byd - second world war
milwyr - soldiers
gwaddol - inheritance
cardotiaid - beggars
Hanes trist ynde, er bod Jon wedi teimlo'n well ar ôl iddo fo gael gwybod hanes ei deulu. Roedd yna sawl trempyn o gwmpas Ynys Môn pan oedd Dewi Wyn Williams yn blentyn. Dyma Dewi'n esbonio wrth Aled Hughes pam bod hynny wedi digwydd ac yn rhoi hanes un trempyn arbennig oedd yn cael ei nabod fel Washi bach.
Rhaglen Geraint Lloyd - Alan Williams
glaswellt - grass
beth ysgogodd - what motivated
ceisio denu - trying to attract
llywodraethau - governments
Dewi Wyn Williams oedd hwnna'n sôn am gardotiaid Ynys Môn ar raglen Aled Hughes. O Ynys Môn i ynys sydd ychydig yn fwy na hi -Awstralia! Mae ‘na bobl yn gwrando ar BBC Radio Cymru ymhob rhan o'r byd ac wythnos diwetha cafodd rhaglen Geraint Lloyd alwad ffôn gan ddyn o Awstralia, Alan Williams o Port Elliot sydd rhyw 80 milltir i'r de o Adelaide. Nos Lun cafodd Geraint sgwrs efo Alan a dyma i chi flas arni.
Bore Cothi - Luke McCall
hyfforddwr ffitrwydd personol - personal fitness trainer
cyfuno - to combine
yn galetach - harder
ymwybodaeth - awareness
ymarferol - practical
Mae Luke McCall wedi gadael Cymru i gael gwaith hefyd, ond aeth o ddim mor bell ag Awstralia. Mae Luke wedi bod yn perfformio yn y West End ar sioeau fel Phantom of the Opera, a fo oedd gwestai Heledd Cynwal ar raglen bore Cothi ddydd Llun. Ond mae gan Luke swydd arall yn Llundain yn ogystal - fel hyfforddwr ffitrwydd personol.
Rhaglen Aled Hughes - Amdani
cyfres - series
dethol - to select
crynhoi - to summarise
llawlyfr - handbook
rhai o'r rhyfeddodau - some of the wonders
haenau - layers
amlwg - obvious
ysgrifau - essays
geirfa sylfaenol - basic vocabulary
rhestr ehangach - a more expansive list
Luke Mcall yr actor a'r hyfforddwr personol yn sgwrsio efo Heledd Cynwal. Dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi wedi gweld rhai o'r llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi yn rhan o'r gyfres Amdani. Llyfrau sydd wedi cael eu hysgrifennu'n arbennig ar gyfer dysgwyr ydyn nhw ac mae Jon Gower wedi sgwennu un ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen, ‘Teithio Drwy Hanes'. Yn y llyfr mae Jon Gower yn mynd â ni i 30 lle sydd â chysylltiad â hanes Cymru. Dyma fo'n sôn am un lle arbennig gafodd sylw yn ei lyfr.
Taro'r Post - Ardal y llechi
ardal y llechi - slate quarrying areas
enwebu - to nominate
Safleoedd Treftadaeth y Byd - World Heritage Sites
ymgyrch - campaign
Gweinidog - Minister
sêl bendith - seal of approval
penderfyniad terfynol - the final decision
diwylliannol - cultural
diwydiant glo - coal industry
deimensiwn rhyngwladol sylweddol - the international dimension
Cofiwch fod yna lyfrau ar bob lefel ar gael yn y gyfres Amdani - o lefel Mynediad i lefel Uwch ac maen nhw ar gael yn eich siopau llyfrau Cymraeg lleol. Mae ardal y llechi yng Ngogledd Cymru wedi cael ei henwebu i fod ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Cadeirydd yr ymgyrch i gael yr enwebiad ydy'r Arglwydd Dafydd Wigley ac mi fuodd o'n sôn am yr ymgyrch ar Taro'r Post wythnos diwetha.
Dewi Llwyd - Tudur Huws Jones
cerddor - musician
cyfansoddwr - composer
offerynau - instruments
mae 'na ormod - there's too much
bob math o anialwch - all kinds of rubbish
angladdau a phriodasau - funerals and weddings
wedi taro rhyw dant - had struck a chord
efo fy mryd ar fod... - I was set to be...
awyddus iawn - very keen
coblyn o gambl - a huge gamble
Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn esbonio ar Taro'r Post pam bod y newyddion am ardal y llechi yn bwysig iawn i economi'r ardal honno. Gwestai penblwydd Dewi Llwyd yr wythnos yma oedd y cerddor, y cyfansoddwr a'r sgwennwr Tudur Huws Jones. Roedd Dewi wedi synnu gweld cymaint o offerynnau yn nhy Tudur. Be oedden nhw i gyd tybed?
