Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Dan yr Wyneb - Coch
effaith seicolegol - psychological
yn gysylltiedig efo - connected with
gwylltio - becoming angry
ar y llaw arall - on the other hand
y pegwn - extreme
codi curiad calon - quicken the heart beat
y gwaed yn byrlymu yn gynt - the blood flowing quicker
ar hap - by chance
oblygiadau - consequences
llwglyd - hungry
"...oes yna rhywbeth arbennig am y lliw coch? Dyna oedd Dylan Iorwerth yn ei drafod ar Dan yr Wyneb nos Lun. Mae yna lyfr newydd yn awgrymu mai coch oedd y lliw cyntaf a’r un pwysicaf. Buodd Dylan yn holi y seicolegydd Nia Williams i gael eu barn hi am y lliw yma... "
Bore Cothi - Clwb Gwyddbwyll
Gwyddbwyll - chess
mo'yn - eisiau
darnau - pieces
pencampwr - champion
safon - standard
diflasu - to become bored
symudiad nesaf - next move
marchog - knight
ysbrydoli - to inspire
arwr - hero
"...diddorol ynde? Coch yn eich gwneud chi'n llwglyd, yn gwneud i chi wylltio ac yn eich gwneud chi'n gariadus. Tybed ydy hynny'n esbonio problemau timau rygbi a phêl-droed Cymru sy'n chwarae mewn coch? Du a gwyn ydy'r lliwiau pwysig mewn gwyddbwyll, ac mae llawer o blant Ysgol y Wern Caerdydd wrth eu boddau efo'r gêm a bore dydd Mercher mi fuon nhw'n trafod y gêm ar raglen Bore Cothi. Aeth Trystan ab Ifan draw i Ysgol y Wern i holi Megan, Evan a Rhys sydd yn aelodau o glwb gwyddbwyll yr ysgol..."
Straeon Bob Lliw - Gwallt
agweddau - attitudes
arbenigwraig - expert (female)
gwynu - to become grey haired
cydyn neu ddau - a lock or two (of hair)
mymryn o liw - a little colour
tra dw i ar y ddaear 'ma - while I'm alive
personoliaeth - personality
o dras - extraction
oherwydd - achos
teimlo - feeling
"Wel, dan ni wedi clywed am effaith seicolegol lliw coch, y pleser mae rhai'n gael o symud darnau du a gwyn gwyddbwyll o gwmpas a bwrdd a rwan dan ni'n mynd i glywed barn rhai pobl am liw gwallt. Be mae lliw gwallt yn ddweud am agweddau pobl? A be am wallt hir neu fyr? Cwrls neu wallt syth? Aeth yr arbenigwraig Hanna Hopwood o gwmpas Cymru i weld beth mae steils gwallt yn ei ddweud am ein cymdeithas ni..."
Aled Hughes - Ifor Williams
cyfle - opportunity
prifathro - headmaster
ei ofn o - afraid of him
Ysgolion Sul - Sunday Schools
emynau - hymns
ail-afael ynddi - to start (learning) again
yn fy marn i - in my opinion
beth bynnag - whatever
cymdogion - neighbours
wyrion - grandchildren
"... a dan ni'n mynd i orffen efo un o gymeriadau lliwgar gogledd -ddwyrain Cymru. Mae Ifor Williams yn 79 oed ac yn dod o Froncysllte ger Wrecsam. Roedd o’n siarad Cymraeg gartref pan oedd o'n blentyn ond mi gollodd o'r iaith pan aeth i'r ysgol, gan fod y prifathro yn erbyn y Gymraeg. Mae o wedi penderfynu ail-ddysgu'r iaith rwan ac mae o'n mynd i ddosbarthiadau Cymraeg yng Ngholeg Cambria Wrecsam. Pam dechau dysgu'r iaith yn 79 oed? Dyma Ifor yn esbonio wrth Aled Hughes..."
