Main content

Pigion i ddysgwyr - Geirfa 04 Ebrill 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Shan Cothi - Tro trwstan ar lwyfan



cantores - singer (female)

damweiniau - accidents

cantorion - singers

cerddorion - musicians

gwaethaf - worst

llwyfan - stage

cofiadwy - memorable

cyfeilio - to accompany (with music)

rhacs - in pieces





...mae Shan Cothi yn gantores enwog sydd wedi perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm, y West End a'r Royal Albert Hall. Ond, does ots pa mor broffesiynol dach chi, mae damweiniau'n digwydd! Cafodd Shan sgwrs gyda'r cantorion a'r cerddorion Rhian Williams, Geraint Cynan, Leah Marian ac Alun Rhys Jenkins ddydd Gwener a gofynnodd Shan y cwestiwn ‘Be' ydy’r peth gwaethaf i ddigwydd i chi ar y llwyfan?’...



Nia Roberts - Tywysoges Lilian



cyflwyno - to present

diddordeb - interest

tywysoges - princess

arddegau - teens

dawnswraig - dancer (female)

cyfrinachol - in secret

magwraeth - upbringing

anfodlon - unsatisfied

cymysgu - to mix

llysgenhadaeth - embassy



Roedd John Hardy yn cyflwyno yn lle Nia wythnos yma. Dydd Llun cafodd John sgwrs â Glenys Lloyd. Mae gan Glenys ddiddordeb mawr ym mywyd Tywysoges Lilian o Sweden ac mae hi'n 'sgwennu llyfr amdani. Pam yn y byd mae gan Glenys ddiddordeb yn Nhywysoges Lilian? Wel, am ei bod hi'n dwad o Abertawe yn wreiddiol. Dyma Glenys gyda mwy o'r hanes.



Daf a Caryl - Euros Lynn



cyfarwyddwr - director

saethu - to shoot

ar leoliad - on location

cyfarwyddyd - direction

manion - bits

llond llaw - handful

cambihafio - misbehave

manylion - details

cymharu - to compare

cydweithrediad - co-operation



Dw i'n gobeithio y bydd fy nghoesau i fel rhai Lilian pan fydda i'n 92 oed! Ac o fywyd 'glam' y dywysoges Lilian i fywyd caled cyfarwyddwr teledu yr awn ni nesa'. Dach chi wedi bod yn gwylio 'Broadchurch' ar ITV yn ddoweddar? Y cyfarwyddwr Euros Lynn oedd gwestai Dan a Caryl ddydd Llun. Euros Lynn ydy cyfarwyddwr 'Broadchurch' ac mae o hefyd wedi cyfarwyddo 'Last Tango in Halifax', 'Upstairs Downstairs', ''Sherlock', 'Doctor Who' a 'Torchwood'! Dyma Euros yn siarad am ei waith.



Stiwdio - Ann Catrin



cerflunydd - sculptor

ffodus - fortunate

anafiadau - injuries

difrifol - serious

esgyrn - bones

morthwylo - hammering

llawdriniaeth - operation

ymestyn - to stretch

di-baid - continual

triniaethau - treatments



Pedair blynedd yn ôl cafodd y cerflunydd Ann Catrin ddamwain car pan roedd hi'n teithio gyda'i mab Jo. Yn ffodus iawn, roedd Jo yn iawn ond mi gafodd Ann Catrin anafiadau difrifol. Yn y rhaglen yma cawn glywed Ann Catrin yn mynd i'r ysbyty yn Lerpwl i gael ffisiotherapi.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf