« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 22 Chwefror 2013

Categorïau:

PigionPigion|14:21, Dydd Gwener, 22 Chwefror 2013

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Daf a Caryl - crempog

crempog/pancos - pancake

lliw traddodiadol - traditional colour

blawd - flour

trwchus - thick

ymdrechion pitw - pityfull attempt

cymysgedd - mixture

diog - lazy

cymryd yn ganiataol - to take for granted

awgrymu - to suggest

hufennog - creamy

"… efo rhaglen Daf a Caryl, ond heb y Daf tro 'ma. Daniel Glyn oedd yn eistedd yn fy sedd i, ac mi gaeth o, Caryl a Derfel gyfle i wneud a blasu crempogau! Dydy hi ddim yn deg nagdy? Dathlu dydd Mawrth Ynyd, neu dydd Mawrth crempog oedden nhw wrth gwrs, ac mi gaethon nhw neb llai na'r chef Dudley Newbury i benderfynu pwy wnaeth y crempog gorau. Dyma i chi glip o Dudley yn blasu, ac yn rhoi ei farn ar y gwahanol grempogau... "

Etifeddiaeth - Rob Lewis

ffraeo - to row (fall out)

Etifeddiaeth - Heritage

ar goll - lost

adnewyddu - to renovate

amgueddfa - museum

dogfennau - documents

cronfeydd dŵr - reservoir

caniatáu - to permit

cefnog - rich

sylfaeni - foundations

"Wrth gwrs taswn i wedi bod yno, fy nghrempog i fasai wedi ennill - siwr i chi! O leia wnaeth y tri oedd yn cystadlu ddim ffraeo, naddo? Ddim fel teulu Rob Lewis. Roedd Rob yn siarad ar raglen newydd John Hardy o'r enw Etifeddiaeth. Mi roedd y ddau yng Nghwm Elan ym Mhowys lle roedd Rob yn sôn am etifeddiaeth ei deulu. Ond fel y cawn ni glywed, oherwydd ffrae yn y teulu rai blynyddoedd yn ôl chafodd o ddim o'r cyfle i etifeddu popeth oedd gan ei deulu ar un adeg... "

Ifan Evans - Lisa Angharad

anarferol - unusual

mo'yn - eisiau

ysu - to yearn

datblygu - to develop

cyflwyno - to present

cipio - to capture

dyfal donc (idiom) - it pays to persevere

buwch - cow

becso - poeni

llwyddo - to succeed

"Rob Lewis yn fan'na, ac efallai bod yr etifeddiaeth mae o yn ei roi i'w blant - yr iaith Gymraeg, yn llawer pwysicach na'r brics a morter gollodd o. A Rob yn un o'r miloedd sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn helpu i gadw ein hetifeddiaeth ni i gyd yn ddiogel. Y cyflwynydd a chantores Lisa Angharad oedd gwestai Ifan Evans nos Fawrth. Mae Lisa yn cyflwyno y rhaglen Ddoe am Ddeg ar S4C. Mae hi hefyd wedi gwneud rhaglen lle mae hi'n gwneud gwaith anarferol, a dweud y lleia. Dyma hi’n egluro wrth Ifan be oedd y gwaith hwnnw. "

Taro'r Post - Y Pab

ymddeol yn swyddogol - to officially resign

ymneilltuo - to set aside

Canol Oesoedd - Middle Ages

y cyhoeddiad - the announcement

yn fwy llesol - more beneficial

cyflawni - to accomplish

sibrydion - rumours

yn fregus - fragile

yn tywallt i mewn - pouring in

trydar - to tweet

"Lisa Angharad yn dweud yn fan'na ei bod hi wedi bod yn gwneud gwaith y basai chi'n disgwyl i ddynion ei wneud. Dipyn bach fel swydd y Pab felly! Ac mi roedd y Pab yn y newyddion yr wythnos diwetha wrth gwrs, wrth i lawer o bobl gael eu synnu pan ddwedodd o ei fod yn ymddeol yn swyddogol. Mi gafodd Gari Owen sgwrs efo John Roberts ar Taro'r Post ddydd Llun diwetha. Mae John yn cyflwyno'r rhaglen Bwrw Golwg ,ac mae’r clip yn dechrau gyda ei ymateb o i gwestiwn Gari – ydy ymddeol fel Pab yn beth anarferol? "

Nia - rhamant

nwydus - passionate

alawon hirion - long tunes

cyfansoddwyr - composers

cyfeiliant addfwyn a thyner - gentle and tender accompaniment

serch - love

ildio - to surrender

y deunawfed ganrif - 18th century

truenus - wretched

y creadur (idiom) - poor dab!

rhagflaenydd - predecessor

"Ac rwan mi wnawn ni symud o'r Pab at Sant - Sant Ffolant wrth gwrs, gan fod llawer iawn o bobl ramantus y wlad wedi dathlu ei ddiwrnod o yr wythnos diwetha. Tydan ni'n bobol lwcus yng Nghymru 'dwch, yn cael dau gyfle i fod yn rhamantus - Santes Dwynwen a Sant Ffolant. Ar ddiwrnod Sant Ffolant, mi ddaeth Alun Guy i'r stiwdio at Nia i sôn am rai o ganeuon mwya rhamantus y byd opera. Dyma nhw- a fydd ddim rhaid i chi deimlo'n rhamantus am bron i flwyddyn arall, os na dach chi isio hynny yw... "