« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Can i Gymru 2013

Categorïau:

NewyddionNewyddion|15:05, Dydd Gwener, 22 Chwefror 2013

Ar Ddydd Gwyl Ddewi eleni, bydd chwe chân gan gymysgedd o enwau cyfarwydd a thalent newydd yn cael eu perfformio’n fyw er mwyn cael y cyfle i ennill gwobr ariannol a theitl Cân i Gymru 2013. Bydd y caneuon yma yn cael eu chwarae ar raglenni Dafydd a Caryl, Nia Roberts, ac C2 Radio Cymru yn ystodyr wythnos sy'n arwain at y gystadleuaeth.

Y rhestr fer yw:

Alun Evans – Breuddwydion Ceffylau Gwyn (cyfansoddwr: Alun Evans)

Dyfrig Evans – Amser Mynd i’n Gwlâu (cyfansoddwyr: Geth Vaughan a Pete Jarvis)

Jessop a’r Sgweiri – Mynd i Gorwen Hefo Alys (cyfansoddwyr: Osian Huw Williams a Rhys Gwynfor)

Catrin Herbert – Ein Tir Na Nóg Ein Hunain (cyfansoddwr: Catrin Herbert)

Ifan Davies a Rhydian Gwyn Lewis – Bywyd Sydyn (cyfansoddwr: Rhydian Gwyn Lewis)

El Parisa – Aur Ac Arian (cyfansoddwyr: Elin Parisa Fouladi a Ben Dabson)

Gallwch glywed y chwe chân ar wefan Soundcloud Cân i Gymru, ac mi fydd y gystadleuaeth yn fyw ar S4C am 8.25pm nos Wener y 1af o Fawrth.