« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Diweddariad 1am Unnos Drama!

Drama Un Nos|01:00, Dydd Iau, 28 Chwefror 2013

Mae pethau'n mynd yn dda yma - mae Aled ac Ian wedi ysgrifennu rhyw 9 munud o'r ddrama hyd yn hyn (drama 15 munud ydi hi i fod wedi iddi gael ei gorffen), ac mae'r actorion (Dyfrig Evans, Eiry Thomas a Fflur Medi) wedi cychwyn darllen trwy'r sgript sydd yn barod ar eu cyfer.

Chafwyd dim pizzas, na bwyd indiaidd / tsieneaidd heno - pawb yn rhy brysur yn gweithio i sylw ar y cloc, ac erbyn i fy mol i ddechrau gneud swn mi oedd pobman ynghau! O wel, mae ychydig o frechdanau a phacedi o grisps ar ol - awn nhw ddim ymhell rhwng pawb chwaith!

Yn anffodus (fel y byddwch chi wedi ei sylwi os y buoch yn trio ei ddefnyddio) mae gremlins yn systemau cyfrifiadurol y BBC wedi golygu i ni golli ein ffrwd fideo byw o'r noson rai oriau nol. Mi yda ni yn dal i drio gweithio i ddatrys y broblem, ond yn y cyfamser fe fyddwn ni yn trio rhoi hyd yn oed mwy o glipiau fideos a lluniau ar wefan Unnos Drama i geisio unioni'r cam, a gadael i chi fod yn rhan o'r profiad cyffrous yma.

Cliciwch yma i weld y cyfan:

Hwyl am y tro... dwi am baned o goffi du, cryf!