« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 02 Tachwedd 2012

Categorïau:

PigionPigion|14:09, Dydd Gwener, 2 Tachwedd 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Daf a Caryl - Dringo mynyddoedd

copa - summit

cysgod - shelter

cawr - giant

straeon ysbryd - ghost stories

llosgfynyddoedd - volcanoes

chwythu fatha neidr (idiom) - blowing a gale

yn gyhyrog - muscular

dioddef - to suffer

anwadal - changeable

haenau - layers

"... efo Sian Lloyd y tywydd, gan fod y gaeaf wedi ein cyrraedd ni ynde? Ond nid sôn am y tywydd oedd Sian ar raglen Daf a Caryl ddydd Mercher, ond sôn am ddringo mynyddoedd. Dach chi'n gweld, mae rhywun wedi cael y syniad gwych mod i a Caryl yn mynd i ddringo pum mynydd mewn pum diwrnod. Pwy gwell i roi cyngor i ni na Siân Lloyd sydd wedi dringo mynydd Kilimanjaro ddwy flynedd yn ôl i godi arian at achos da... "

Nia - Unigrwydd

dyfarnwr - referee

unig - lonely

cyflwynydd a newyddiadurwr - presenter and journalist

y dorf - the crowd

y frwydr - the battle

y wybodaeth - the information

rhwyd - net

llimanwr - linesman

llinyn mesur - yardstick

pendroni - to wonder

"Dw i dal dim yn siwr os ydy o'n syniad da, a hitha wedi troi'n oer iawn y dyddiau diwetha ma. Wel o leia fydda i ddim yn teimlo'n unig ar ben y mynyddoedd, gan y bydd Caryl efo fi wrth gwrs. Ac wrth gwrs dw i'n gwybod bydd gwrandawyr Radio Cymru efo ni yr holl ffordd. Ond wyddoch chi be sydd yn waith unig iawn? Bod yn ddyfarnwr pêl-droed yn ôl Owain Phillips, y cyflwynydd a newyddiadurwr. Mae Owain yn reffio yn ei amser sbâr, ac i roi 'chydig o flas o pa mor unig ydy'r gwaith mi wnaeth o ddisgrifio diwrnod ym mywyd dyfarnwr i ni ar raglen Nia ddydd Mawrth. Dyma i chi Owain yn ein rhoi ni yn sgidiau'r reff... "

Ifan Evans - Rownd a Rownd

pedair ar bymtheg - nineteen

fenga - ifanca

gweithdai - workshops

genod - merched

yn lliwgar - colourful

go iawn - in reality

tyfu lan - to grow up

y genedl - the nation

Difyr ynde? Mi ron i wastad yn meddwl sut oedd dyfarnwr yn teimlo ar ôl gêm, yn enwedig os oedd yna un neu ddau o benderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud. Wel mi gaethon ni'r ateb yndo? Anghofio amdano fo a symud ymlaen. Rhywun sy wedi symud ymlaen efo'i gyrfa ydy yr actores Ffion Medi Jones sydd yn actio rhan ‘Dani’ yn Rownd a Rownd. Mi ddechreuodd hi yn y rhan pan oedd hi'n saith oed, ac mae'n rhyfedd meddwl ei bod hi wedi bod yn actio yn un o raglenni mwya poblogaidd S4C ers deuddeg mlynedd a dydy hi ddim yn ugain oed eto! Dyma hi'n dweud wrth Ifan Evans nos Fawrth sut cafodd hi'r rhan yn y lle cyntaf.

Geraint Lloyd –rhan 1 - Dilwyn Morgan

cystadlu - to compete

does gen i ddim - does dim gyda fi

llwydo - to become mouldy

tystysgrif - certificate

"Dydy'r comedïwr Dilwyn Morgan ddim wedi gorfod tyfu fyny o flaen y genedl, diolch i'r drefn! Fo oedd gwestai Geraint Lloyd nos Fawrth ac mi gawn ni glywed yn y clip cynta yma o'r rhaglen pam bod ei 'bickles' o'n broblem... "

Geraint Lloyd-rhan 2 - Dilwyn Morgan

tywyll - dark

cynhesu - twymo

tywydd garw - bad weather

rwtsh - rubbish

trafod - debating

r'on i'n rhyfeddu - I was amazed

…ac ar ôl clywed am ei 'bickles' yn llwydo dan ni'n cael manylion am ei byjamas. Nid yn unig hynny ond dan ni'n cael clywed ychydig am byjamas Geraint Lloyd hefyd. Dipyn bach gormod o fanylion yn fan'na fechgyn...

Iola Wyn - Silian

cwrdd â - cyfarfod efo

rheolwr - manager

byd-enwog - world renowned

brwdfrydig - enthusiastic

eithriadol - exceptional

cyfnod - period(of time)

cyfleoedd - opportunities

sbort - hwyl

mamgu a tadcu - nain a taid

difrifol - serious

Pyjamas gwahanol am bob tymor! Dach chi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd wrth wrando ar Radio Cymru! Dan ni'n mynd i orffen efo sgwrs llawer callach, o raglen Iola Wyn. 'Y Tannau Tawela', sef grŵp o Silian ger Llanbedr Pont Steffan oedd gwestai recordiau archif Iola dydd Mercher. Yn y chwedegau roedden nhw'n canu ac aelodau'r grŵp oedd y ddwy chwaer Ann a Susan a’u ffrind Kitty Lewis. Yn anffodus bu farw Kitty, ond roedd yna syrpreis bach i Ann a Susan yn ystod y sgwrs fel y cawn ni glywed rwan....