« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 30 Awst 2012

Categorïau:

PigionPigion|11:43, Dydd Iau, 30 Awst 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dewi Llwyd - Penblwydd

cyflwyno - to present

anwybyddu - to ignore

traddodiad - tradition

bygythiol - threatening

sgiliau cerddorol - musical skills

cur pen - pen tost

anghenfil - monster

"…efo cyfarchion penblwydd i'r canwr Geraint Lovgreen ac hefyd i'w ferch Mari Lovgreen sy'n cyflwyno rhaglenni ar S4C. Mi roedd y ddau'n dathlu eu penblwydd ar yr un diwrnod - dydd Sadwrn diwetha. Nhw oedd gwesteion penblwydd rhaglen Dewi Llwyd ddydd Sul, ond efo Dewi ar ei wyliau, Aled ap Dafydd oedd yn sgwrsio eo nhw. Fyddan nhw'n cael parti eleni felly? "

Geraint Lovgreen a’r Enw’r Gan - Gwyneth Glyn

hwylio - to sail

yn gyfarwydd efo - familiar with

alltudwyd - was exiled

gorfodi - to enforce

tyndra - tension

cynefin - familiar territory

ysgafnder - lightness

hiraethu - to feel nostalgic

naws - essence

yn y lleddf - in the minor key

"Dyna be ydy parti penblwydd ynde? Os oedd gan Geraint gur pen ar ôl y parti mi roedd o wedi gwella digon i gyflwyno'r rhaglen gynta cyfres newydd o 'Geraint Lovgreen a'r Enw'r Gân'. Dyma lle mae cantorion yn esbonio 'chydig am enwau'r caneuon maen nhw'n eu canu. Yn y rhaglen hon mi glywon ni Gwyneth Glyn yn sôn am y gân ‘Hwylio Heno’ sef hanes Elis Wiliams yn hwylio ar y Mimosa i Batagonia yn Mil Wyth Chwe Phump. "

Rhiniog - Myfyr Isaac

digonedd - plenty

hynny a fu - that's what happened

pres - arian

digartref - homeless

profiad - experience

olwyn - wheel

ystyried - to consider

dod gartref - dwad adre

"Ac mae teithio a chanu yn dod at ei gilydd yn y clip nesa hefyd. Y cerddor Myfyr Isaac oedd yn sgwrsio efo Huw Stephens ar Rhiniog yr wythnos yma. Dyma Myfyr yn dweud dipyn o hanes taith gaeth o i Amsterdam i berfformio efo'r band ‘Smoke Stack’ ers stalwm. Fel cawn ni glywed aeth pethau ddim cweit fel oedd o wedi gobeitho... "

Daf a Caryl - Iwan Lewis

clasurol - classical

saethu - to shoot

bywyd cyffrous - exciting life

dy farn di - your opinion

prif ran - main part

croesgraen - against the grain

ar daith - on tour

"Ew, dw i'n siwr bod Caryl Parry Jones yn gwrando'n astud ar y rhaglen yna! Mae hi'n briod efo Myfyr, neu Mr Myf fel mae hi'n ei alw fo ar raglen Daf a Caryl. Ac ar y rhaglen ddydd Mawrth mi gaethon ni gwmni cerddor arall - ond o'r byd clasurol y tro hwn. Mae Iwan Lewis yn actor yn ogystal a bod yn ganwr, ac wedi cymryd rhan yn y ffilm Les Miserable. Fel y clywch, mae Caryl yn gwybod popeth sy 'na i'w wybod am Les Mis... "

Blas - Cig ceffyl

Chwyldro Ffrengig - French Revolution

cig ceffyl - horse meat

oglau - smell

yn frau - tender

arferol - usual

cig eidion - beef

toddi - to melt

cig carw - venison

"Ia Courgette, da ynde? Stori am y Chwyldro Ffrengig oedd yn Les Miserable wrth gwrs, ac mae'n debyg y byddai'n cymryd chwyldro i wneud i ni yng Nghymru ddilyn esiampl y Ffrancwyr a bwyta cig ceffyl. Mi aeth Rhodri Ogwen Williams a Nia Mair at banel profi y rhaglen 'Blas' i weld be oedd eu barn nhw am stecen cig cig ceffyl "

Erwyd ar Grwydr - Eleri Davies

arallgyfeirio - to diversify

ar y fath ddiwrnod - on such a day

cryn dipyn - quite a loy

godro - to milk

rhwydd - easy

ieuenctid - youth

adeiladwyr a thrydanwyr - builders and electricians

mewn cysylltiad - in contact

poblog - populous

cyfleusterau - facilities

"Ella dylai ein ffermwyr ni yng Nghymru arallgyfeirio a dechrau gwerthu cig ceffyl. Roedd o i'w weld yn reit boblogaidd yn doedd? Un ffermwraig sydd yn arallgyfeirio ydy Eleri Davies sydd yn ffermio yn Llanfair Clydogau ger Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed. Mae Erwyd Howells yn mynd ar daith o gwmpas cefn gwlad Cymru ac yn siarad efo'r bobol leol. Yr wythnos diwetha buodd o'n siarad efo Eleri Davies, a dyma ni'n cael cipolwg bach ar fywyd y rhan yma o gefn gwlad Cymru... "

Nia Roberts - Tudur Owen

argraff - impression

cyngerdd mawreddog - grand concert

aros yn y cof - to stay in the memory

llwyfan - stage

cynnwrf - excitement

cae ŷd yn y gwynt - a corn field in the wind

dawn naturiol - natural talent

uniaethu - to empathise

yn gyfarwydd - familiar

creu delweddau - to create images

"Un oedd yn nabod pobol cefn gwlad Cymru i'r dim oedd yr actor Charles Williams. Roedd gan Charles hiwmor arbennig iawn hefyd. Ei weld o yn gwneud i bobol Ynys Môn rowlio chwerthin oedd yn gyfrifol am benderfyniad Tudur Owen i fod yn gomediwr. Dyma fo'n dweud yr hanes wrth Nia Roberts... "

Daniel Glyn - Rufus Mufasa

Gŵyl Caeredin - Edinburgh Festival

yn orlawn - over-capacity

y gair wedi lledaenu - the word has spread

menywod - merched

llefain - crio

sefyllfa - situation

anhygoel - incredible

so fi'n - dw i ddim

stwr - a row

parch - respect

"Ac mae Tudur Owen wrth gwrs wedi perfformio y tu allan i Gymru yn ogystal. Mi gafodd o lwyddiant rai blynyddoedd yn ôl yng Ngwyl Caeredin efo'i sioe un dyn. Ar raglen Daniel Glyn nos Fercher mi glywon ni gan gomediwr arall o Gymru sy'n trio gwneud enw i'w hunan yng Nghaeredin. Ruth Evans ydy ei henw hi ond Mae hi'n perfformio efo'r enw Rufus Musafa. Mi gaeth ???? air efo hi yn union cyn iddi fynd ar y llwyfan... "