« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 20 Awst 2012

Categorïau:

PigionPigion|11:29, Dydd Mawrth, 21 Awst 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Pop mewn print - cylchgronau

cylchgronnau - magazines

chwa o awyr iach - a breath of fresh air

diwallu gofynion - to fulfil the needs

tafodiaeth - dialect/informal language

pigog - hard hitting/edgy

chwistrellu…egni - injection..of energy

heriol a beirniadol - challenging and critical

adlewyrchu - to reflect

gwrthryfelu yn erbyn y sefydliad - rebelling aginst the establishment

cyngor cyfreithiol - legal advice

"... efo rhaglen newydd sbon sydd i'w chlywed bob nos Fercher - Pop Mewn Print. Rhaglen ydy hon sy'n edrych ar hanes cylchgronau pop Cymraeg efo Ian Gill yn cyflwyno. Yn y clip yma, mae’n sgwrsio am y cylchgrawn “Sŵn” efo Craig Owen Jones sydd yn guradur yn Archif Bop Prifysgol Bangor, ac hefyd efo Hefin Wyn sydd wedi sgwennu llyfr am hanes pop Cymraeg. Yn y clip yn ogystal mae Ian yn holi Alun “Sbardun” Huws, un o'r rhai ddechreuodd y cylchgrawn. Mi roedd yna gylchrawn pop Cymraeg yn bod yn barod -Asbri - oedd yn cael ei gyhoeddi gan yr Urdd. Pam felly bod Alun 'Sbardun' yn disgrifio 'Sŵn' fel '...chwa o awyr iach'? "

Daf a Caryl - Alex Jones

gollwng - to drop

credu taw - meddwl mai

cyngerdd - concert

cyfweliad - interview

sêr - stars

Bechod na 'sen nhw 'di cael galw'r cylchgrawn yn Rasbri ynde? Enw gwych!!! I aros efo'r byd pop mi gaethon nhi sgwrs ar Daf a Caryl ddydd Iau efo rhywun oedd wedi canu efo Stevie Wonder ac wedi cael cwtsh gan Paul McCartney. Pwy oedd hon tybed? Diva o'r byd pop, neu rhyw fodel ella? Naci wir, neb llai nac Alex Jones o'r One Show, sydd yn dod am sgwrs efo ni ar y rhaglen o dro i dro.

Dewi Llwyd - Fflur Wyn

cantorion - singers

crynu fel deilen - shaking like a leaf

cynulleidfa - audience

yn gyhoeddus - in public

beirniad - adjudicator

gwrandawiad - audition

atgoffa'ch hun - to remind oneself

cystadleuol - competitive

"Dylech chi fod wedi gweld wyneb Caryl pan glywodd bod Alex wedi canu efo Stevie Wonder. Sioc ta be? Ella bod y gantores Fflur Wyn heb ganu efo Stevie ond mae hi'n gantores broffesiynol - canu clasurol, hynny yw, nid cantu pop! Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore Sul. Dyma hi'n dweud wrth Dewi sut roedd cystadlu yn yr Eisteddfod wedi bod yn help mawr iddi wrth ddechrau ei gyrfa ganu. "

Taro'r Post - Olympics ta'r Steddfod?

sylwadau - comments

Prydeiniwr - British

gorfodi - forced

lol eithafol - extreme nonsense

prawf - evidence

chydig iawn - very few

Dewch o 'na - come off it

mwynhau yn ddychrynllyd - enjoy terribly

"Dw i'n siwr basai gan Fflur rhywbeth i'w ddweud am sylwadau Maldwyn Jones o'r Felinheli ar Taro'r Post ddydd Llun. Dydy o ddim yn hoff iawn o'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn amlwg yn poeni am rai o'r plant sydd yn mynd yna efo'u rhieni... "

Y Talwrn - y Ffeinal

Araith y Llywydd - President's Speech

hoelio - to nail

perfedd - gut

bodio - to hitchhike( to thumb)

dagrau - tears

saer...rhydd - freemason

ehedydd - skylark

yn gelfydd - skillfully

aflonydd - fidgety

yn gegrwth - openmouthed

...Maldwyn Jones yn fan'na yn dweud ei ddweud wrth Dylan Jones. Ond be sy o'i le efo plant yn cael mwynhau'r ddau beth, y Steddfod a'r Olympics? Dim ond gofyn! Mae gen i deimlad na fasa' Maldwyn Jones yn mwynhau rhyw lawer ar yr eitem nesa 'ma - rownd derfynol, neu ffeinal, Talwrn y Beirdd -gaeth ei gynnal ar faes yr Eisteddfod. Dau dîm oedd yn y ffeinal 'Y Glêr' a'r 'Tir mawr'. Dyma i chi Gaeth Jones, neu Jôs, o dim y Tir Mawr efo'i gân ugain llinell ar ‘Araith y Llywydd’.

"Dei Tomos Dydd Sul Aneirin Karadog " - Aneirin Karadog

ailganfod fy hunaniaeth - rediscover my identity

Llydaw - Brittany

clytwaith gorgymleth - overcomplicated patchwork

ymsefydlu - to establish oneself

adlewyrchu - to reflect

dianc - to escape

esgeluso - to neglect

Annwn - underworld (mythological)

cyd-destyn - context

cau pen y mwdwl(idiom) - to bring something to a head

"Da de, er roedd hi'n swnio'n fwy nag ugain llinell i mi rywsut. A fasai hynny ddim yn syndod rywsut gan nad ydy Jôs wedi llwyddo i gadw ei gân o fewn ugain llinell un waith yn ystod y gystadleuaeth! Mae Aneirin Karadog yn fardd sydd i'w glywed yn aml ar y Talwrn. Mae o hefyd yn rapiwr, mewn Llydaweg yn ogystal ac yn Gymraeg. Dyma fo'n siarad efo Dei Tomos am ei gyfrol newydd o gerddi ‘O Annwn i Geltia’ . "

Rhiniog - Merêd

o safbwynt y diwylliant - from the culture point of view

gwerthfawrogi - to appreciate

digonnedd - more than enough

annog - to encourage

swil - shy

diddanu - to entertain

gwobr - prize

torri calon - to lose heart

"Mi ddechreuon ni'r podlediad yma efo cyfres newydd, ac mi gawn ni glip o gyfres newydd arall i orffen. Rhiniog ydy enw'r gyfres ac ynddi mi fydd y DJ Huw Stephens yn sgwrsio efo cerddorion hen ac ifanc. Yn y rhaglen gynta mi aeth Huw i weld y canwr gwerin arbennig iawn, y Dr Meredydd Evans yn ei gartref yng Nghwmystwyth... "