« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 20 Gorffennaf 2012

Categorïau:

PigionPigion|11:10, Dydd Llun, 23 Gorffennaf 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

C2: Sioned Mills - Gwion Larsen

y gyfraith - the law

awgrymiadau - suggestions

dipyn go lew - quite a bit

caniatau - to allow

ail-gylchu - recycle

elw - profit

sbio - edrych

diwydiant technoleg - technology industry

ystyried - to consider

buddsoddiad - am investment

"...efo llais newydd i Radio Cymru - Sioned Mills. Mae hi'n un o bedwar o leisiau newydd sydd yn cael cyfle i gyflwyno rhaglen C2. Yn y clip yma mi glywn ni ran o sgwrs efo Gwion Larsen sy’n ddwy ar hugain oed ac yn rhedeg cwmni ffônau symudol yng Nghaerdydd. Os dach chi'n meddwl mentro i fyd busnes, gwrandwch yn ofalus. Mae gan Gwion lawer o 'dips' ar sut i redeg busnes yn llwyddiannus. "

Daf a Caryl - Bryn fon

clodfori - to praise highly

gosod - to place

carreg fedd - tombstone

arwyr - heroes

caniatad - permission

yn ddiweddar - recently

dadorchuddio - to unveil

yn garedig tu hwnt - extremely kind

"..a phob lwc i Gwion efo'r busnes ffônau symudol. Mi roedd cannoedd o'r ffônau yn cael eu defnyddio run pryd yn Gig Hanner Cant Cymdeithas yr Iaith dros y penwythnos. Pan oedd Gruff Rhys o'r Super Furry Animals yn canu, dw i'n siwr bod pawb yn y gynulleidfa yn ffilmio ar eu ffônau bach. Ac mi roedd cannoedd o ffônau i fyny yn yr awyr hefyd pan oedd Bryn Fôn yn canu. Bryn Fôn oedd ein gwestai arbennig ni ddydd Llun ar Daf a Caryl, ac mi gaethon ni glywed ganddo fo am y plac sydd wedi cael ei roi ar y ty lle cafodd ei eni. "

Dei Tomos - Elwyn Pritchard

ysbryd - ghost

rhith - virtual

yn gyffredinol - generally

y drafferth - the problem

fawr ddim - not much

rhyfeddu - to wonder

plwyf - parish

toriadau papur - paper cuttings

y we - the internet

gwaith cefndir - background work

"Mi fasai llyfr am fywyd Bryn Fôn yn diddorol iawn dw i'n siwr. Yr unig beth ydy, mae o mor brysur fel actor ac fel canwr 'sa fo byth yn cael yr amser i'w sgwennu! Wel, dw i'n nabod yr union berson iddo fo. Mae Elwyn Pritchard wedi helpu tri o bobl i sgwennu am eu bywydau. 'Ghost writer' ydy'r geiriau Saesneg sy'n disgrifio be mae o'n wneud. Elwyn oedd gwestai Dei Tomos dydd Sul ac mi fuodd o'n sôn am y broses o sgwennu am hanes bywyd rhywun arall. Cwestiwn cynta Dei iddo fo oedd be ydy 'Ghost writer' yn Gymraeg? "

Dewi Llwyd - Hywel Gwynfryn

plentyndod - childhood

cofiadwy - memorable

darlledu - to broadcast

iau/hyn - younger/older

cysur mawr - huge comfort

oed yr addewid - 70 (the promised age)

cyfraniad - contribution

"Dyna i chi un arall y basai'n wych darllen am hanes ei fywyd o - Hywel Gwynfryn. Yn un peth, swn i'n licio cael gwybod pam y gwnaeth o benderfynu cael perm yn y saithdegau! Ac ella y basai'n amser da i ddod â llyfr allan gan ei fod o'n dathlu ei benblwydd yn saithdeg cyn bo hir. Fo oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul a dyma Dewi'nn gofyn iddo fo pa benblwyddi mae o’n ei gofio orau…. "

Gaynor Davies - Ty'd am dro Co'

Porth - gate

y Groes - the cross

Datganiad - pronouncements

bler - untidy

adfer - to renovate

pensaerniaeth - architecture

trysor - treasure

argraffwr - printer

pedaredd ganrif ar bymtheg - 19th century

dymchwel - to demolish

"Tasai Hywel ddim eisiau mynd dramor am wyliau, be am wyliau yn hen dref Caernarfon fel y gwnaeth Mari Lovegreen. Wel, mynd i'r dre Gaernarfon ar ran rhaglen Gaynor Davies wnaeth Mari i weld be oedd yn digwydd yn yr Wyl Arall, oedd yn cael ei chynnal yn y Dre. Mae Emrys Llywelyn Jones yn cynnig teithiau cerdded yng Nghaernarfon o’r enw ‘Ty'd am dro Co!’. Mi aeth Mari ar un o'r teithiau ac mi gawn ni rannu rai o hanesion y dre efo hi rwan... "

Nia - Naw naw naw

mabwysiadu - to adopt

fel canlyniad i - as a result of

arolygiad - review

rhif penodol - specific number

lleoliad - location

mwg - smoke

gwasanaeth argyfwng - emergency service

"Mae Emrys yn cynnal teithiau drwy'r Saesneg hefyd o dan yr enw ‘Kerb Crawling with Em’. Digon i wneud i chi ffonio'r heddlu yntydy? Naw naw naw oedd y rhif oeddech chi'n arfer i ddefnyddio i ffonio'r heddlu ynde? Mae'r rhif yma'n dal i gael ei ddefnyddio os dach chi eisiau'r gwasanaeth tân neu'r ambiwlans ar frys. Wyddoch bod y rhif yma wedi cael ei ddefnyddio rwan am saithdeg pump o flynyddoedd? Gordon Roberts, rheolwr Gogledd Cymru efo’r gwasanaeth ambiwlans oedd un o westai Nia dydd Llun ac yn y clip nesa mi gawn ni glywed ychydig o hanes y rhif arbennig hwn. "

Stiwdio - Llyfr y Flwyddyn

y prif gyhoeddiad - the main announcement

ffeithiol - factual

barddoniaerh - poetry

ffuglen - fiction

camp - feat

y gweisg - the publishers

genedigaeth - birth

dyfeisgarwch geiriol - verbal inventiveness

trawiadol o uchel - strikingly high

llongyfarchiadau gwresog - warm congratulations

"Difyr ynde? Mae na lyfr i blant newydd ddod allan o'r enw 'Nain, Nain, Nain' gan Sian Eirian Rees Davies. Un da ydy o hefyd, am lwyth o neiniau yn gweithio fel ditectifs! Doedd y llyfr hwnnw ddim yn un o'r rhai oedd yn y ras i fod yn Llyfr y Flwyddyn eleni, fodd bynnag. Yn y gystadleuaeth hon mae na dri chategori o lyfrau, a'r awduron enillodd eu categoriau nhw oedd Karen Owen, Jon Gower ac Allan James. Roedd un ohnyn nhw'n mynd i ennill y brif wobr -ond pwy? Roedd Kate Crockett yna'n fyw ar ran Stiwdio nos Iau... "