« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 25 Gorffennaf 2012

Categorïau:

PigionPigion|12:00, Dydd Mercher, 25 Gorffennaf 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Taro'r Post - Llyfr y Flwyddyn 2012

uchelgeisiol - ambitious

dawn - talent, gift

beirniad - judge

haeddu - to deserve

prif wobr - main prize

siomedig - disappointed

canlyniad - result

mwyafrif - majority

yn y pendraw - in the long run

gwrthrychol - objective

nos Iau, cafodd ei gyhoeddi mai Jon Gower oedd enillydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2012 am ei nofel uchelgeisiol 'Y Storïwr'. Mae’r nofel yn dilyn Gwydion McGideon, hogyn ifanc sydd â dawn dweud stori. Roedd y tri beirniad Dr Jason Walford Davies, Bethan Mair Hughes a Kate Woodward yn cytuno bod 'Y Storïwr' yn haeddu ennill y brif wobr, ond mae'n anodd plesio pawb yn tydy? Dyma Alan Llwyd, cystadleuydd arall yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, yn siarad ar raglen 'Taro'r Post' i egluro pam ei fod o'n siomedig efo'r canlyniad...

Nia - 50 Shades'

trioleg - trilogy

awduron - authors

trafod - to discuss

chwip - whip

rhyw - sex

diniwed - harmless

stori serch - love story

cusanu - to kiss

symol - so-so

Nofel arall sydd wedi creu tipyn o ffỳs yn ddiweddar ydy ’50 Shades of Grey’ gan E L James. Dyma'r nofel gyntaf yn y drioleg erotig boblogaidd sydd bellach wrth wely sawl merch drwy'r byd! Ond ydy Cymru'n barod am nofelau erotig? Yr awduron Bethan Gwanas a Gareth F Williams fuodd yn trafod y nofel ar raglen Nia wythnos yma. Dyma Bethan i ddisgrifio'r nofel yn ei geiriau ei hun...

C2 - Daniel Glyn - Sarah Reynolds

dim dwywaith - no doubt

testun - topic

gwestai - guest

serennu - to star

prif gymeriadau - main characters

rhedwr - runner

sefyllfa - situation

rhegi - to swear

hap a damwain - by chance

"Wel, does dim dwywaith. Mi fydd raid i mi gael gafael ar gopi, yn bydd! Nofelau erotig oedd testun sgwrs Sarah Reynolds hefyd, sef gwestai Daniel Glyn nos Iau. Mae Sarah yn dŵad yn wreiddiol o Surrey ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerfyrddin ac wedi dysgu Cymraeg. Mae hi'n 'sgwennu nofelau erotig go arbennig lle dach chi a’ch partner yn medru serennu fel prif gymeriadau'r nofel. Cyn dechrau 'sgwennu, roedd Sarah yn gweithio fel rhedwr ar 'Strictly Come Dancing'. Dyma hi'n son am weithio gyda Brucey yn ogystal â sut mae nofelau erotig yn fwy poblogaidd nag erioed, diolch i'r drioleg '50 Shades'. Rŵan ta, lle ga i brynu copi, dwch? "

Daf a Caryl - Erin Richards

profiad - experience

cyfres - series

haws - easier

diogelwch - security

ffansïo - to fancy

Yr actores Erin Richards oedd gwestai arbennig Caryl a finnau ddydd Mawrth. Mae hi wedi bod yn LA yn ffilmio ar gyfer y rhaglen gomedi newydd ‘Breaking In’. Dyma hi'n trafod y profiad o gyfarfod yr actor enwog Christian Slater sydd hefyd yn serennu yn y gyfres. Dyma obeithio ei fod o yn berson haws i weithio efo fo na Brucey, wir!

Eleri Sion - Nest Jenkins - Canu'r delyn

arwr - hero

blynyddol - annual

gwahodd - to invite

canmol - to praise

diddanu - to entertain

telynores - harpist

"Pan ôn i'n hogyn 13 oed, fy arwr i oedd ac mi fyswn i wedi bod wrth fy modd yn ei g/chyfarfod. Wel, mi gafodd Nest Jenkins, hogan 13 oed o Aberaeron, gyfarfod â Tywysog Charles wythnos diwethaf pan wnaeth o ymweld â'r dref yn rhan o'i daith flynyddol o gwmpas Cymru. Cafodd Nest ei gwahodd i ganu'r delyn ar gyfer y dorf oedd wedi hel i weld y Tywysog ac mi gafodd ei chanmol am ei dawn. Dyma Nest ar raglen Eleri Siôn i ddweud mwy am yr hanes. "

Gig Hanner Cant - Magi Dodd - Gruff Lynch 'Yr Ods'

dathliadau - celebrations

mudiad - organization

gwleidyddol - political

ymgyrchu - to campaign

di-drais - non-violent

deddf - act

cerdd - poem

cydweithio - to collaborate

dylanwadu - to influence

carreg filltir - milestone

Ac i orffen 'Pigion' wythnos yma, draw a ni i Bafiliwn Bont ym Mhontrhydfendigaid. Penwythnos diwethaf roedd hanner cant o fandiau Cymraeg yn perfformio yn y Pafiliwn yn rhan o ddathliadau Cymdeithas yr Iaith yn bumdeg oed. Mudiad gwleidyddol ydy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd wedi bod yn ymgyrchu dros ddyfodol yr iaith ers 1962. Mae'r mudiad di-drais wedi cymryd rhan mewn llawer o ymgyrchoedd dros y blynyddoedd, yn cynnwys dwy ddeddf iaith, arwyddion ffordd dwyieithog a sefydlu S4C. Magi Dodd fuodd yn siarad efo Gruff Lynch o'r band 'Yr Ods' cyn iddo berfformio yn rhan o'r penwythnos arbennig. Dyma glip hefyd o'u perfformiad - mwynhewch!