« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 04 Gorffennaf 2012

Categorïau:

PigionPigion|15:40, Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Manylu - Wimbledon

cynulleidfa byd-eang - worldwide audience

mefus - strawberries

pencampwriaeth - championship

ysbrydoliaeth - inspiration

brwdfrydedd - enthusiasm

byr-dymor - short term

y trueni ydy - the shame of it is

dal ei dir - holding its ground

benthyciad heb log - interest free loan

denu - to attract



"..efo Wimbledon wrth gwrs. Weloch chi'r gêm fawr ddydd Sul? Hen dro am Murray ynde? Mae'n debyg mai Albanwr fydd o'n y papurau rwan yn hytrach na Phrydeiniwr...Tybed welwn ni Gymro neu Gymraes yn y ffeinal ryw ddydd? Ar manylu yr wythnos diwetha mi aeth Glesni Jones i weld sut siap sydd ar y gêm yn rhai o glybiau lleol Cymru. Dyma hi'n siarad efo aelodau o glwb tenis Bangor...

Talwrn - Limerig

sylwebydd chwaraeon - sports commentator

digalon - trist

ail-ddangos - to repeat (a programme)

cymeriadau - characters

chwedlonol - fabled

druan â fe - poor dab

dwy fantais glir - two clear advantages

parchu'r llinell osod - to respect the task

llinell glo - final line





"Taswn i'n sylwebydd chwaraeon, neu'n sylwebydd tenis efo'r BBC o leia, ella 'swn innau wedi cael tocyn i'r ffeinal yn Wimbledon. A wyddoch chi be? Dyna oedd y llinell gafodd ei rhoi yn dasg i dîmau'r Talwrn yr wythnos diwetha - 'pe bawn i'n sylwebydd chwaraeon...'. Y ddau dîm oedd yn cystadlu yn y Talwrn oedd Y Tir Mawr a Hiraethog. Dyma limerig Gareth Jones o'r Tir Mawr i ddechrau..."

Cofio - geiriau

pedwar ban byd - four corners of the earth

myn cythraul i - I'll be blowed

pwy gas i - pey gafodd hi

bendith - bless (you)

macyn - hances

so Dan da ti - dydy Dan ddim efo ti

da i ddim - good for nothing

ffili - methu

blaidd - wolf

yn dueddol i anghofio - tends to forget



"Y Tir Mawr aeth ymlaen i ennill, ac mae nhw rwan yn y rownd gyn-derfynol, un cam o'r ffeinal! Yn y Steddfod bydd y ffeinal ei hun, ac mi fydd yna bedwar tîm yn cystadlu yno! 'Pedwar' oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a mynd â ni i bedwar ban byd wnaeth Lyn Ebenezer a Peter Hughes Griffiths. Wel i wledydd Affrica o leia, wrth iddyn nhw chwarae efo geiriau mewn ffordd andros o glyfar yn y gêm banel 'Pwll Bach Arall' gafodd ei chlywed gynta yn ôl yn Nwy Fil a Dwy...."

Blas - Bwydo'r Bobl

sy'n berchen - who owns

proflenni - proofs

amryw - several

sefyll yn sobor - stay sober

gweini - to serve

arbrofion - experiments

tad-cu - taid

dywediad - saying

menyw - dynes





"Nid yn Affrica, ond yn Llanbed mae Lyn Ebenezer yn y clip nesa ma! Aeth Rhodri Ogwen i siop chips Lloyd’s yn Llambed i siarad efo Stuart Lloyd, gafodd ei eni a’i fagu yn y siop, ac sy rwan yn rhedeg y lle.

Mae Lyn Ebenezer a Stuart wedi ysgrifennu llyfr am hanes y busnes, o'r enw 'Bwydo’r Bobl'. Dyma Stuart yn trio perswadio Rhodri mai bwyd iach sydd i'w gael yn y siop chips!"

Beti a'i Phobl - garddio

nain - mam-gu

cymydog - neighbour

co(f) plentyndod - childhood memories

ty gwydr - greenhouse

yn dlawd - poor (no money)

cyffredin - ordinary

un cyfa(n) - a whole one

i raddau - to an extent

amau - to suspect

hau'r hadyn - to sow the seed



"Ydy gwrando ar y clip yna yn gwneud i chi isio cael platiad o bysgod a sglodion? A'i olchi i lawr efo potel o bop! A choeliech chi mai pop, Coco-Cola o bopeth, sy'n gyfrifol am ddiddordeb Carol Gerecke mewn garddio? Carol sy'n rhoi tips garddio i ni ar ragalen Geraint Lloyd, a hi oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Gofynodd Beti iddi hi pryd dechreuodd y diddordeb mewn garddio?"

Dei Tomos - Gwrachod

gwrachod - witches

cwestiwn dybryd - difficult cwestion

erledigaeth - persecution

rheithgorau - juries

chrogwyd yr un - not one was hanged

dowcio - ducking

y gosb eitha - execution

diedifar - remorseless

marwolaethau - deaths

pwnc llosg - burning issue



"Awn ni o'r ardd rwan i fyd plant bach, byd y tylwyth teg a gwrachod. Damian Walford Davies fuodd yn sgwrsio am ei lyfr newydd “Witch” efo Dei Tomos ddydd Sul. Yn y clip cawn glywed sut daeth o i ysgrifennu'r llyfr, a be oedd rhan ei ferch fach o, Christen, ym mhenderfyniad Damian i sgwennu am wrachod..."

Daf a Caryl - Cân y Babis

gwyrthiau bach - little miracles

efeilliad - twins

dathlwn mewn llawenydd - celebrate with joy

hwyl a sbri - fun and games

tywynnu - to shine

yr un o'nyn nhw - neither of them

hardd - beautiful

môr o gariad - sea of love



"A dan i'n aros ym myd y plantos rwan efo Al Lewis yn perfformio Cân y Babis ar gyfer Mis Mehefin, yn fyw yn y stwidio. Mae na dros bedwardeg o enwau'r mis hwn felly mae'r gân ychydig yn hirach na'r arfer! A pheidiwch a phoeni os nad dach chi'n deall bob gair - mae na ychydig o Ffrangeg yn y canol! Mwynhewch y gân hyfryd hon..."