« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu: Faniau tân: Bywydau mewn peryg?

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|11:51, Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2012

Mae penderfyniad Gwasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin i brynu 16 o faniau newydd i gymryd lle rhai injanau tân traddodiadol yn rhoi bywydau mewn peryg, yn ôl undeb y ddiffoddwyr tân.

Ym marn yr FBU (Fire Brigades Union) ceisio arbed costau mae’r Gwasanaeth Tân, ond mae’r penaethiaid yn dweud mai moderneiddio yw eu bwriad.

Maen nhw’n mynnu y bydd y cerbydau newydd yn cynnig ffyrdd modern ac effeithiol o ddiffodd tanau ac y byddan nhw’n medru cyrraedd mannau gwledig, na fyddai peiriannau mwy yn medru gwneud.

Ond pa mor effeithiol yw’r faniau mewn gwirionedd, ac a ydy Gwasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin mewn peryg o losgi eu bysedd?

Manylu gyda Ioan Wyn Evans am 6 o’r gloch heno ar BBC Radio Cymru.