Archifau Mehefin 2012

Dewi Llwyd yn holi Tudur Dylan Jones

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|13:21, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei benblwydd yr athro a'r prifardd Tudur Dylan Jones oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul Mehefin 24ain.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Manylu - Môr o Brotest: Cynlluniau cadwraeth am foddi wrth y lan?)

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|17:04, Dydd Llun, 25 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Dylai llywodraeth Cymru roi'r gorau i'w cynllun dadleuol i sefydlu Parthau Cadwraeth Morol a dechrau eto, yn ôl arbenigwr sydd wedi teithio'r byd yn cynghori llywodraethau i greu cynlluniau tebyg.

Bydd rhaglen materion cyfoes BBC Radio Cymru Manylu heno yn edrych ar gynlluniau dadleuol y llywodraeth i ddewis tri neu bedwar allan o ddeg safle posib lle bydd cyfyngiadau llym iawn ar weithgareddau morwrol.

Y gobaith ydi hybu bioamrywiaeth drwy rhoi saib i rannau o’r môr rhag ymyrraeth dyn.

Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan bysgotwyr a chymunedau arfordirol, gan bod bygythiad i bob math o weithgareddau morol – o ganŵio i gerdded y ci ar y traeth.

Yn ôl Dr Dylan Evans, sydd wedi gweithio i dîm ymchwil rhyngwladol ar barthau cadwraeth morol yn y Seychelles a Bae Mnazi yn Tansania, wnaiff y cynllun presennol ddim gweithio.

Dywedodd: "Byddwn i’n hoffi gweld nhw’n gweithio, ond alla i ddim gweld sut all nhw weithio heb gefnogaeth y gymuned leol, a fel dwi’n gweld pethau nawr, tydi’r gefnogaeth ddim yno.

“Byddwn i’n dechrau’r broses eto a chysylltu o’r gwaelod i fyny.”

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes dim wedi ei benderfynu eto ac mai nawr mae’r broses ymgyghorol yn dechrau. Mae gan bobol tan ddiwedd Gorffennaf i ymateb i’r cyntaf o dri cyfnod ymgynghorol.

Manylu, gyda Bryn Jones, nos Lun 25ain o Fehefin am 1803 ar BBC Radio Cymru. 

Dewi Llwyd yn holi Lisa Gwilym

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|13:49, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Ar ddiwrnod ei phenblwydd cyflwynydd C2 Radio Cymru Lisa Gwilym oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 17.06.12. Yn ogystal â chlywed am ei hoffter o gerddoriaeth cawn ddysgu am ei diddordeb mewn seicoleg a chelf.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Manylu - Athrawon a'i disgyblion treisgar

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|10:14, Dydd Llun, 18 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

O fewn y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o blant sy'n ymddwyn yn dreisgar tuag at athrawon yn y dosbarth. Yn ôl un undeb, mae traean o athrawon wedi dioddef ymosodiadau.

Ysgolion cynradd sydd wedi gweld y newid mwyaf, gyda gwaharddiadau yno wedi dyblu rhwng dwy fil a naw a dwy fil a deg, am y tro cyntaf mewn deng mlynedd.

Mae nifer o ffactorau i'w ystyried wrth ystyried pam fod plant yn ymddwyn yn fwy bygythiol; ai newidiadau cymdeithasol fu'n gyfrifol? A yw rhieni yn gwneud digon i ddysgu'i plant sut i ymddwyn yn briodol?

A beth am ymateb yr awdurdoau i'r ymddygiad drwg? Ydi gwaharddiadau'n effeithiol? A'i dyma'r unig opsiwn sydd i ysgolion pan mae plentyn yn mynd rhy bell? Yn ôl rhai sydd 'di siarad â Manylu, mae mwy a mwy o athrawon yn newid ysgol, neu yn gadael y proffesiwn yn gynnar oherwydd ymddygiad unigolion yn y dosbarth.

Does dim digon medden nhw'n cael ei wneud i ddelio â sefyllfa sy'n gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn.

Manylu, gyda Tomos Morgan, nos Lun 18fed o Fehefin am 6.03pm ar BBC Radio Cymru.

Manylu - Y Dirwasgiad a dim lle i anifeiliaid anwes

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|10:17, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Mae na gynnydd syfrdanol wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn y nifer o anifeiliad sy'n cael eu taflu allan o'u cartrefi gan berchnogion.

Dywed canolfannau achub anifeiliad i'r cynnydd fod cyn uched â 50% mewn rhai ardaloedd oherwydd effaith y dirwasgiad. Cŵn a chathod yw'r rhan fwyaf o'r anifeiliaid hyn ond mae mwy a mwy o geffylau hefyd yn cael ei gollwng yn rydd gan berchnogion am nad yw teuluoedd â digon o bres i ofalu amdanynt.

Dwedodd llefarwyr ar ran mwy na un ganolfan achub bod y sefyllfa wedi troi yn epidemig erbyn hyn.

Manylu, nos Lun 11eg o Fehefin am 6.03pm ar BBC Radio Cymru.

Dewi Llwyd yn holi Arwyn Davies

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|16:18, Dydd Sul, 10 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Yr actor a'r cerddor Arwyn Davies oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 10.06.12 cyn dathlu ei benblwydd yn ystod yr wythnos. Mae'n rhannu ei brofiad o actio Mark yn y gyfres Pobol y Cwm ers dros 15 mlynedd, ei hoffter o gerddoriaeth ac am yr effaith arno o fod yn fab i'r amryddawn Ryan Davies.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Cân y babis Mis Mai gan Brigyn

Categorïau:

Criw Dafydd a CarylCriw Dafydd a Caryl|08:13, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Dyma'r gân gan Brigyn yn arbennig i fabanod Mis Mai.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis mis Mai!"

Dewi Llwyd yn holi Robin Huw Bowen

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|13:55, Dydd Sul, 3 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Y telynor Robin Huw Bowen oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 03.06.12. Wedi ei fagu yn Lerpwl mae o bellach yn byw ger Aberystwyth ac yn parhau i deithio'r byd yn perfformio alawon traddodiadol Cymreig ar y delyn deires.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.