« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Manylu - Y Dirwasgiad a dim lle i anifeiliaid anwes

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|10:17, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2012

Mae na gynnydd syfrdanol wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn y nifer o anifeiliad sy'n cael eu taflu allan o'u cartrefi gan berchnogion.

Dywed canolfannau achub anifeiliad i'r cynnydd fod cyn uched â 50% mewn rhai ardaloedd oherwydd effaith y dirwasgiad. Cŵn a chathod yw'r rhan fwyaf o'r anifeiliaid hyn ond mae mwy a mwy o geffylau hefyd yn cael ei gollwng yn rydd gan berchnogion am nad yw teuluoedd â digon o bres i ofalu amdanynt.

Dwedodd llefarwyr ar ran mwy na un ganolfan achub bod y sefyllfa wedi troi yn epidemig erbyn hyn.

Manylu, nos Lun 11eg o Fehefin am 6.03pm ar BBC Radio Cymru.