Archifau Mai 2012

BBC Radio Cymru yn darlledu yn fyw o Eisteddfod Yr Urdd Eryri

Categorïau:

NewyddionNewyddion|14:26, Dydd Mawrth, 29 Mai 2012

Sylwadau (0)

Bydd gwrandawyr dros Gymru gyfan yn cael cyfle i fwynhau cystadlu a seremonїau Eisteddfod yr Urdd Eryri ar BBC Radio Cymru wrth i’r orsaf ddarlledu yn fyw o’r maes am wythnos gyfan unwaith eto eleni (dydd Llun, Mehefin 4 - dydd Sadwrn, Mehefin 9).

O fore Llun (10.30am-1pm a 2pm-5pm) bydd holl arlwy’r llwyfan gan Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis, wrth iddynt sylwebu’n fyw ar gystadlaethau’r llwyfan a rhaglen uchafbwyntiau’r cystadlu ar ddydd Sul, Mehefin 10, 10.30am. Bydd gan wefan bbc.co.uk/radiocymru holl newyddion yr wythnos yn ogystal â rhaglenni arbennig o Dodd.com yn fyw o’r maes nos Wener, Mehefin 8 a nos Sadwrn, Mehefin 9, 7pm.

Caffi Mr Urdd fydd yn gartref i Dafydd a Caryl fore ddydd Llun o 8am, wrth iddynt gychwyn dathlu’r Wŷl mewn steil. Yn crwydro’r maes bydd Mari Lovgreen, wrth i Iwan Griffiths, yn wreiddiol o Aberteifi, gael blas o’r cyffro cefn llwyfan. Dyma fydd y tro cyntaf i’r darlledwr Newyddion ymuno a thîm Radio Cymru yn yr Urdd:

“Ar ôl cystadlu am flynyddau yn yr Urdd, dwi 'di mwynhau'r fraint o arwain yr Eisteddfod o'r llwyfan dros y tair blynedd diwethaf, ac eleni, yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael ymgymryd â rôl wahanol! Mae gwasanaeth Radio Cymru o'r Eisteddfod yn werthfawr, a dwi yn y gorffennol wedi ei fwynhau a'i werthfawrogi'n fawr, felly mae'n gyffrous meddwl y byddai'n rhan o'r gwasanaeth hwnnw am y tro cyntaf eleni,” meddai Iwan.

Ym mysg y cystadlu brwd, bydd Dylan Jones a thîm Ar y Marc yn cymryd rhan mewn gornest bêl-droed nos Wener, Mehefin 8, ar Faes Dulyn ym Mhenygroes, yn erbyn timau Sgorio, Rownd a Rownd ac eraill. Cynhaliwyd gêm bêl-droed yno 20 mlynedd yn ôl pan fu Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon ddiwethaf.

BBC: Eisteddfod yr Urdd

Dewi Llwyd yn holi Ned Thomas

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|18:12, Dydd Sul, 27 Mai 2012

Sylwadau (0)

Y darlithydd, newyddiadurwr ac awdur llyfr y flwyddyn Ned Thomas oedd gwestai Dewi Llwyd fore heddiw ac yntau ar fin dathlu ei benblwydd

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

S4C, BBC Radio Cymru a Rondo mewn partneriaeth i ddarlledu'r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig

Categorïau:

NewyddionNewyddion|13:43, Dydd Iau, 24 Mai 2012

Sylwadau (0)

Bydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig sy'n rhan o broses ddethol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013 yn cael cynulleidfa ehangach eleni o ganlyniad i bartneriaeth arloesol rhwng S4C, BBC Radio Cymru a chwmni cynhyrchu Rondo Media.

Teledir y gystadleuaeth ar S4C ac fe'i darlledir yn fyw ar BBC Radio Cymru ar noson y gystadleuaeth yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd - nos Lun 11 Mehefin.

Bydd enillydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2013. Bydd hefyd yn derbyn gwobr o £2,000 a thlws. Fe fydd y cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £750.

Mae'r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig wedi ei hanelu at gantorion ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol ac eleni, yn dilyn clyweliadau yng Nghaerdydd a Llundain, bydd y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu i gael y cyfle i gynrychioli Cymru flwyddyn nesaf. Y pedwar yw Rhian Lois (soprano) o Bontrhydygroes, Ceredigion, Fflur Wyn (soprano) o Sir Gaerfyrddin, Sioned Gwen Davies (mezzo-soprano) o Fae Colwyn a Garry Griffiths (bariton) o Benbre.

Trefnir y gystadleuaeth gan Cerdd Byw Cymru mewn cydweithrediad â BBC Cymru a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Grant Llewellyn fydd yn cyfeilio yn y rownd derfynol ac aelodau'r rheithgor fydd y cantorion rhyngwladol Rebecca Evans, Della Jones a Donald Maxwell, John McMurray, Pennaeth Castio, Opera Cenedlaethol Lloegr a Julian Smith, Cynghorwr Cerdd, BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae'r bartneriaeth hon ymhlith y cyntaf rhwng y BBC, cwmni cynhyrchu annibynnol a ninnau yn y trefniant newydd rhyngom fel darlledwyr. Y gynulleidfa sydd wrth galon ein holl weithgareddau a'r gwylwyr fydd yn elwa'n bennaf o'r cydweithrediad hwn. Rwy'n hyderus y bydd llawer mwy o enghreifftiau o gydweithredu fel hyn rhyngom yn y dyfodol."

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, "Pa well ffordd o nodi ysbryd ein partneriaeth na'r cyd-gynhyrchiad yma sy'n cyfleu uchelgais y ddau ddarlledwr - i fynd â Chymru i'r byd gyda'r cyfoeth o ddoniau sydd yma. Trwy'r cynhyrchiad hwn mewn partneriaeth - y cyntaf o lawer gobeithio - bydd cynulleidfaoedd ar radio a theledu yn gallu rhannu'r wefr o ddarganfod pa ganwr neu gantores ifanc fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013."

Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media, "Rwy'n falch eithriadol bod Rondo yn cynhyrchu'r darllediadau o'r gystadleuaeth i Gantorion Cymreig eleni.

"Mae hon yn gystadleuaeth arbennig, a safon y cantorion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn uchel tu hwnt. Mae Canwr y Byd yn agos iawn at fy nghalon i, gan mai'r diweddar Mervyn Williams, fy nhad, greodd y gystadleuaeth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

"Mae'n wych bod S4C a BBC Cymru yn medru cyd-ddarlledu'r gystadleuaeth arbennig hon, ac rydym yn eithriadol o falch o fod yn cydweithio hefyd gyda Cerdd Byw Nawr a Neuadd Dewi Sant - cartre'r gystadleuaeth."

Dewi Llwyd yn holi Ieuan Wyn Jones

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:38, Dydd Sul, 20 Mai 2012

Sylwadau (0)

Yr Aelod Cynulliad a chyn arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones oedd gwestai penblwydd Dewi ar fore Sul Mai 20fed.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Dewi Llwyd yn holi Huw Stephens

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:29, Dydd Sul, 13 Mai 2012

Sylwadau (0)

Y cyflwynydd radio Huw Stephens oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 13.05.12 a hynny mewn mis prysur iawn , pan fydd yn dathlu ei benblwydd ac yn priodi.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Enillwyr Gwobrau Roc A Phop BBC Radio Cymru

Categorïau:

NewyddionNewyddion|08:08, Dydd Mawrth, 8 Mai 2012

Sylwadau (0)

Ar ôl wythnosau o ystyried rhestr gyfoethog a helaeth o gerddoriaeth Gymraeg a cherddorion yng Nghymru, datgelwyd enillwyr Gwobrau Roc a Phop 2012 yn fyw ar BBC Radio Cymru ddoe (dydd Llun, Mai 7).

Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel Gwobrau Roc a Phop 2012 - 29 cynrychiolydd annibynnol o faes cerddoriaeth yng Nghymru gan gynnwys cynhyrchwyr, hyrwyddwyr gigs, cwmn?au teledu, cylchgronau a mudiadau sydd yn ymwneud â’r byd cerddoriaeth.

Meddai Irfon Jones, is-olygydd BBC Radio Cymru:

"Mae Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn ddathliad arbennig iawn yng nghalendr yr Orsaf. Gwobrau’r diwydiant ydyn nhw a phanel o arbenigwyr o’r maes sydd yn penderfynu ar yr enillwyr. Bob blwyddyn mae darogan tranc y sin roc a phop yng Nghymru ond mae’r Gwobrau unwaith eto eleni yn profi nad oes angen poeni! Roedd y sesiynau byw glywyd drwy gydol y dydd ddoe yn wefreiddiol ac mae’n holl-bwysig ein bod yn cefnogi a thynnu sylw haeddiannol i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru."



Roedd y Gwobrau yn cael eu cyhoeddi drwy’r dydd ar raglenni Radio Cymru a chafwyd sesiynau byw gan Al Lewis, Yr Ods, Georgia Ruth Williams, Swnami a’r Niwl. Yn ystod y brif raglen ar C2, BBC Radio Cymru, cyhoeddodd Lisa Gwilym weddill y Gwobrau ac uchafbwyntiau’r dydd tra bu Dyl Mei, (sydd ei hun yn enillydd casgliad o wobrau RAP yn y gorffennol), a Huw Evans yn cyflwyno rhaglen amgen fywiog a chrafog ar bbc.co.uk/radiocymru. I gloi’r diwrnod rhwng 11pm-12am, darlledwyd cymysgedd o gerddoriaeth arbennig ac unigryw gan ‘y Lladron’ i adlewyrchu rhestrau byrion Gwobrau Roc a Phop 2012.

Dyma restr enillwyr Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2012:

Band y Flwyddyn

Yr Ods

Artist Benywaidd y Flwyddyn

Georgia Ruth Williams

Cynhyrchydd y Flwyddyn

Dave Wrench

Albym y Flwyddyn

Yr Ods - Troi a Throsi

Cyfansoddwr y Flwyddyn

Al Lewis

Y Band Ddaeth Fwyaf i Amlygrwydd

Swnami

Artist Gwrywaidd y Flwyddyn

Al Lewis

Digwyddiad Byw y Flwyddyn

Pesda Roc

Band Byw y Flwyddyn

Y Niwl

Cân y Flwyddyn

Yr Ods - Sian

Sesiwn C2 y Flwyddyn

Swnami

Y Wobr am Gyfraniad Arbennig

Llwybr Llaethog

Artist/band ar frig Siart C2 am y nifer uchaf o wythnosau yn 2011

Steve Eaves

Sesiynau, biogs a restr llawn ar wefan C2

Am wybodaeth bellach ac i weld y sesiynau arbennig, ewch i wefan C2 - bbc.co.uk/c2

Sgwrs Fiona Bennett

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|15:33, Dydd Sul, 6 Mai 2012

Sylwadau (0)

Dros 15 mlynedd ers rhyddhau ei CD unigol diwethaf, Fiona Bennett sy'n son am ei chynllun diweddaraf 'A Country Suite'. Yn ogystal, mae'n egluro beth sy'n ei hysbrydoli, ei CD nesaf i Lady Radnor a pham ei bod yn byw yn Newbury.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Dewi Llwyd yn holi Aneirin Karadog

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|15:21, Dydd Sul, 6 Mai 2012

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei benblwydd yn 30 oed y cyflwynydd, bardd, rapiwr a'r ieithydd Aneirin Karadog oedd gwestai Dewi fore Sul 06.05.12 . Mae hon yn flwyddyn arbennig iddo am sawl rheswm - fe ddaeth yn dad ac fe gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi 'O Annwn i Geltia'.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Cân Babis Mis Ebrill gan Daniel Lloyd

Categorïau:

Criw Dafydd a CarylCriw Dafydd a Caryl|11:34, Dydd Mawrth, 1 Mai 2012

Sylwadau (0)

Dyma'r gân gan Daniel Lloyd yn arbennig i fabanod Mis Ebrill

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis mis Mai!"