« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Enillwyr Gwobrau Roc A Phop BBC Radio Cymru

Categorïau:

NewyddionNewyddion|08:08, Dydd Mawrth, 8 Mai 2012

Ar ôl wythnosau o ystyried rhestr gyfoethog a helaeth o gerddoriaeth Gymraeg a cherddorion yng Nghymru, datgelwyd enillwyr Gwobrau Roc a Phop 2012 yn fyw ar BBC Radio Cymru ddoe (dydd Llun, Mai 7).

Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel Gwobrau Roc a Phop 2012 - 29 cynrychiolydd annibynnol o faes cerddoriaeth yng Nghymru gan gynnwys cynhyrchwyr, hyrwyddwyr gigs, cwmn?au teledu, cylchgronau a mudiadau sydd yn ymwneud â’r byd cerddoriaeth.

Meddai Irfon Jones, is-olygydd BBC Radio Cymru:

"Mae Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn ddathliad arbennig iawn yng nghalendr yr Orsaf. Gwobrau’r diwydiant ydyn nhw a phanel o arbenigwyr o’r maes sydd yn penderfynu ar yr enillwyr. Bob blwyddyn mae darogan tranc y sin roc a phop yng Nghymru ond mae’r Gwobrau unwaith eto eleni yn profi nad oes angen poeni! Roedd y sesiynau byw glywyd drwy gydol y dydd ddoe yn wefreiddiol ac mae’n holl-bwysig ein bod yn cefnogi a thynnu sylw haeddiannol i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru."



Roedd y Gwobrau yn cael eu cyhoeddi drwy’r dydd ar raglenni Radio Cymru a chafwyd sesiynau byw gan Al Lewis, Yr Ods, Georgia Ruth Williams, Swnami a’r Niwl. Yn ystod y brif raglen ar C2, BBC Radio Cymru, cyhoeddodd Lisa Gwilym weddill y Gwobrau ac uchafbwyntiau’r dydd tra bu Dyl Mei, (sydd ei hun yn enillydd casgliad o wobrau RAP yn y gorffennol), a Huw Evans yn cyflwyno rhaglen amgen fywiog a chrafog ar bbc.co.uk/radiocymru. I gloi’r diwrnod rhwng 11pm-12am, darlledwyd cymysgedd o gerddoriaeth arbennig ac unigryw gan ‘y Lladron’ i adlewyrchu rhestrau byrion Gwobrau Roc a Phop 2012.

Dyma restr enillwyr Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2012:

Band y Flwyddyn

Yr Ods

Artist Benywaidd y Flwyddyn

Georgia Ruth Williams

Cynhyrchydd y Flwyddyn

Dave Wrench

Albym y Flwyddyn

Yr Ods - Troi a Throsi

Cyfansoddwr y Flwyddyn

Al Lewis

Y Band Ddaeth Fwyaf i Amlygrwydd

Swnami

Artist Gwrywaidd y Flwyddyn

Al Lewis

Digwyddiad Byw y Flwyddyn

Pesda Roc

Band Byw y Flwyddyn

Y Niwl

Cân y Flwyddyn

Yr Ods - Sian

Sesiwn C2 y Flwyddyn

Swnami

Y Wobr am Gyfraniad Arbennig

Llwybr Llaethog

Artist/band ar frig Siart C2 am y nifer uchaf o wythnosau yn 2011

Steve Eaves

Sesiynau, biogs a restr llawn ar wefan C2

Am wybodaeth bellach ac i weld y sesiynau arbennig, ewch i wefan C2 - bbc.co.uk/c2