Y Talwrn yn dychwelyd ar ei newydd wedd
Gyda’r gerddoriaeth gyfarwydd ar ei newydd wedd, cystadleuaeth newydd Trydargerdd a Meuryn newydd sbon, bydd Y Talwrn yn dychwelyd i BBC Radio Cymru ar Ionawr 15.
Bydd y gyntaf yn y gyfres yn cael ei recordio yn Nghaffi’r Emlyn, Tan-y-groes, ar Ionawr 10 lle bydd timau Crannog a Than-y-groes yn wynebu’i gilydd, gyda’r Prifardd Ceri Wyn Jones yn ei le fel y Meuryn newydd. Mae Ceri Wyn yn olynu Gerallt Lloyd Owen a ymddeolodd y llynedd wedi 32 mlynedd fel Meuryn y gyfres.
Y Sul hwn bydd Ceri Wyn yn trafod yr her newydd hon ar raglen Dei Tomos (Dydd Sul, Ionawr 8, BBC Radio Cymru, 5.30pm) ac yn datgelu pa mor werthfawr y bu’r gyfres iddo fel bardd.
Mae cerddoriaeth gyfarwydd Y Talwrn hefyd wedi cael gweddnewidiad gan y band poblogaidd o Ben Llyn, Cowbois Rhos Botwnnog. Mae newidiadau eraill yn cynnwys newid yn y drefn sy’n golygu y gallai tîm a gollodd yn y rowndiau cyntaf gyda sgôr uchel, ddychwelyd i gystadlu yn yr ail rownd. Un elfen newydd sbon yw’r ‘Drydargerdd’, lle bydd beirdd yn ysgrifennu cerdd wedi ei chyfyngu i 140 nodwedd fel neges Trydar.
"Fel y gweddill ohonom, bu’r Talwrn wrthi’n gwneud addunedau blwyddyn newydd," meddai Ceri Wyn Jones. "Ond rhyw fân newidiadau yw’r rhain yn y bôn, oherwydd, wedi’r cwbwl, rhan o apêl y rhaglen yw ei fformat glir a chyfarwydd. Rwy’n edrych mlaen at y gyfres newydd, ac at weld gwrandawyr a chystadleuwyr newydd yn ymuno â’r ffyddloniaid hynny sydd wedi sicrhau llwyddiant y rhaglen dros y blynyddoedd."
Mae cynhyrchwyr y gyfres yn awyddus i fynd â’r rhaglen i bob cornel o Gymru ac yn gwahodd cymdeithasau a chlybiau i gysylltu os am groesawu’r Talwrn i’w hardal. Y cyfeiriadau cysylltu yw ytalwrn@bbc.co.uk neu Y Talwrn, BBC Radio Cymru, Brynmeirion, Bangor, LL57 1BH.
Dyddiadau Recordio Y Talwrn
Ionawr 10 - Crannog v Tan-y-groes - Caffi'r Emlyn, Tan-y-groes
Ionawr 17 - Penllyn v Tegeingl Festri, Hiraethog v Ysgol Dyffryn Conwy - Coffa Henry Rees, Llansannan
Ionawr 31 - Y Garfan v Y Rhelyw, Beca v Y Waun Ddyfal - Neuadd Bentref Llanddarog
Chwefror 7 - Hogia'r Ynys v Tir Mawr, Y Tywysogion v Caernarfon - Capel Mawr, Porthaethwy
Chwefror 21 - Manion o'r Mynydd v Talybont, Ysgol y Berwyn v Y Cwps - Neuadd Bentref Y Sarnau, ger Y Bala
Mawrth 6 - Ffair Rhos v Ffostrasol, Y Glêr v Glannau Teifi - Festri Hermon, Cynwyl Elfed
Mawrth 22 *Nos Iau* - Glannau Menai v Criw'r Ship, Llanrug v Bro Alaw - Neuadd Talwrn, Ynys Môn


Mae