Meuryn newydd y Talwrn
Y Prifardd Ceri Wyn Jones yw Meuryn newydd Y Talwrn ar BBC Radio Cymru.
Mae Ceri Wyn yn olynu Gerallt Lloyd Owen, sy’n ymddeol wedi 32 mlynedd wrth lyw’r Talwrn. Yn enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol (1997), ac yna’r Goron (2009), mae’n llais a wyneb cyfarwydd ym myd talyrnau ac ymryson.

Ceri Wyn Jones
Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 21) dywedodd Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru:
"Rydw i yn hynod falch o allu cyhoeddi mai Ceri Wyn Jones yw Meuryn newydd Y Talwrn, sy’n rhaglen mor bwysig yn amserlen Radio Cymru. Mae Ceri yn frwd, yn ffraeth ac yn feistr yn ei faes ac rydyn ni yn hyderus y bydd yn ddewis poblogaidd ymysg dilynwyr y gyfres. Mae’n uchel iawn ei barch o fewn byd y beirdd eu hunain hefyd ac mae’n siwr o ddod â’i syniadau a’i arddull ei hun i’r gyfres."
"Bydd dilyn ôl troed trysor cenedlaethol yn her," meddai Ceri Wyn am olynu Gerallt Lloyd Owen, "ond mae’n her sydd hefyd yn anrhydedd enfawr a chyffrous, yn gyfle i feithrin cenhedlaeth newydd o feirdd a gwrandawyr, yn ogystal â sicrhau bod y selogion yn para’n rhan ganolog o lwyddiant y gyfres."
Bydd Ceri yn recordio'i Dalwrn cyntaf fel Meuryn yn ei filltir sgwâr, yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes nos Fawrth, Ionawr 10, a hon fydd rhaglen gynta’r gyfres, gaiff ei darlledu ar Ionawr 15 am 6.45pm.
Os oes cymdeithas neu glwb yn dymuno croesawu’r Talwrn i'w hardal yn y flwyddyn newydd, mae croeso iddyn nhw gysylltu â ytalwrn@bbc.co.uk neu Y Talwrn, BBC Cymru, Brynmeirion Bangor Gwynedd LL57 2BY.


Mae