Post Cyntaf: Ffion Hague
Ffion Hague yw’r olaf ymysg casgliad o wynebau cyfarwydd sydd wedi ymgymryd â’r her o olygu rhan o raglen newyddion foreol BBC Radio Cymru, Post Cyntaf.

Ymhlith golygyddion gwadd y Post Cyntaf, a gyflwynir gan Garry Owen a Nia Thomas, bu’r DJ Huw Stephens, y cynllunydd tlysau Rhiannon Evans, y cyn chwaraewr rygbi Gareth Davies, Russel Jones o raglen Byw yn yr Ardd a Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury.
Ddydd Mawrth, Awst 30, yr awdures Ffion Hague fydd yn golygu, ac yn gyfrifol am bennu rhan o agenda newyddion y dydd, a dewis pynciau ar gyfer trafodaeth.
“Fel awdur llyfr ar y merched ym mywyd y cyn Brif Weinidog David Lloyd George, a rhywun sy’n gyfarwydd iawn â’r byd gwleidyddol cyfoes hefyd, mae’n naturiol mai pynciau yn ymwneud â materion merched mewn bywyd cyhoeddus yw dewis Ffion ar gyfer trafodaeth,” meddai golygydd newyddion Radio Cymru, Bethan Roberts. “Bydd rhaglen y bore hwnnw yn trafod y rhwystrau sy’n wynebu merched sy’n adeiladu eu gyrfa a merched dylanwadol sydd ddim wedi cael cydnabyddiaeth lawn.”
Post Cyntaf, BBC Radio Cymru, 6.30am


Mae