Taith Haf Tudur Owen
Helo na!
Mae'r wythnos dwytha wedi bod yn wythnos fawr i un aelod o'r tim, sef Manon Rogers, sydd o'r diwedd wedi ymuno gyda'r 20fed ganrif, drwy ymuno gyda Twitter o'r diwedd!
Fe glywsom ni hefyd gan Lisa Gwilym yn fyw o Gwyl Arall yn Gaernarfon. Rhoddwyd her i Lisa Gwilym i ddod o hyd i ambell eitem sy'n gysylltiedig a'r pâr brenihnol. Dyma'r canlyniad
Lisa Gwilym yn derbyn her gan Tudur i ddod o hyd i eitemau y pâr brenhinol! Lisa wedi derbyn her gan Tudur i ddod o hyd i eitemau o'r pâr brenhinol.

Cafodd y tim lawer o hwyl yr wythnos dwytha wrth roi y digwyddiaur wythnosol at ei gilydd. Tro Tudur a Dyl Mei oedd hi tro yma, wedi selio ar y ffilm Braveheart!
Gawn ni weld beth fydd y digwyddiadur ar gyfer dydd Sadwrn yma!
Mi fyddan ni'n darlledu'n fyw o Wyl Gardd Goll dydd Sadwrn yma rhwng 12.30 a 3 o'r gloch; fe ddown ni a'r gorau o gefn llwyfan i chi.
Yn arbennig ar gyfer dydd Sadwrn dan ni wedi bod yn brysur yn recorido jingles ein hunain ar gyfer y rhaglen…………………mae'r arian yn dynn!
Cofiwch wrando!
Manon.


Mae